Ysgol Cwrt yn llawn eto i lansio llyfr atgofion

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Llun o'r neuadd lawn
Y gynulleidfa yn Neuadd Ysgol Cwrtnewydd nos Iau

Daeth tua chant o bobl i neuadd hen Ysgol Gynradd Cwrtnewydd am y tro cynta’ ers iddi gau – a hynny er mwyn lansio llyfr yn dathlu hanes yr ysgol.

Mae Cofio Cwrt yn cynnwys atgofion cyn-ddisgyblion o’r 1930au ymlaen ynghyd â lluniau a chofnodion o stori’r ysgol ers iddi agor i ddechrau yn 1878.

Roedd dau o’r cyn-ddisgyblion hyna’, Nana Jones a Walter Harris, yno i weld y copïau cynta’ ac i weld eu hunain ar sgrin mewn fideo’n cofnodi atgofion y cenedlaethau.

Roedd bron 200 o bobl wedi tanysgrifio i’r gyfrol ymlaen llaw a nifer o gwmnïau lleol hefyd wedi noddi’r gyfrol; erbyn diwedd y noson, roedd y ffigwr gwerthiant wedi croesi’r 250.

“Mae’n wych gweld y neuadd yn llawn unwaith eto i ddathlu hanes addysg yng Nghwrtnewydd,” meddai Luned Mair, a oedd yn llywio’r noson ac yn un o drefnwyr y gyfrol.

Mae modd archebu’r gyfrol o hyd – trwy gysylltu â Luned Mair yn Cartref, Alltyblaca, ac fe fydd y gyfrol ar werth hefyd am £10 mewn rhai siopau lleol.

Fe gafodd yr ysgol ei chau yn haf 2017 ac mae’r plant bellach yn mynd i Ysgol Dyffryn Cledlyn yn Drefach.