73 o dimoedd yn Nhwrnamaint Pêl-droed Llanybydder

gan Gareth Williams
Aberaeron

Ar benwythnos May 18fed a 19eg, fe gynhaliwyd Twrnamaint Pêl-droed Blynyddol Ieuenctid Llanybydder. Eleni eto, Cae Rygbi Llanybydder oedd y lleoliad, ac roedd y cae fel arfer mewn cyflwr arbenig dros ben.  Er gwaethaf y glaw dydd Gwener, roedd y tywydd yn sych ac yn braf dros y dau ddiwrnod.

Ar ôl misoedd o baratoi, trefnu ac adeiladu, roedd pobeth yn barod ac yn ei le.

Am y tro cyntaf eleni, penderfynodd y pwyllgor ddefnyddio meddalwedd arlein, i gofnodi’r canyniadau, ac felly rhoi y cyfleuster i unrhyw un weld y canlyniadu wrth iddynt ddigwydd.

Dros y dau ddydd roedd 73 o dimoedd wedi cofrestu yn y twrnament.  Daeth rhai ohnynt o ardal Abertawe a hyd yn oed o gymmoedd y De, chwarae teg iddynt am gymeryd rhan.

Llanbed

Fel arfer roedd y gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed, ac yn gwneud eu gwaith yn drylwyr, i sicrhau bod y twrnamaint yn rhedeg fel cloc.

Ar y dydd Sadwrn, tro y plant bach dan 6, dan 10 a’r rhai hŷn o dan 14 oedd e, tra ar y dydd Sul y dan 8, dan 12 ar merched dan 14 oedd yn dangos eu doniau.

Roedd y pêl-droed yn arbennig gyda goliau gwych yn cael eu sgorio, ac felly yn adeiladu’r chwant am fwyd a diod. Roedd yr Adran Luniaeth fel arfer yn orlawn a’r bwyd yn flasus dros ben.

Ar ôl nifer helaeth o gemau, daeth yr amser i’r gemau gael eu lleihau i’r gemau gyn derfynol a’r rhai terfynol.

Y canlyniadu oedd:-

Dydd Sadwrn Mai 18fed

Dan 10- Cyntaf -Llanbed, Ail Llanybydder.
Dan 14- Cyntaf – Padarn Panthers, Ail – Peniel.

Dydd Sul Mai 19eg.

Dan 8 – Cyntaf Aberaeron, ail Llanybydder.
Dan 12 – Cyntaf Llanilar , ail Llanbed.
Dan 14 merched – Cyntaf Ffostrasol, yn aml ddewisiad o ferched Sir Aberteifi

Roedd yna dlysau prydferth dros ben i’r timoedd buddigol a llongyfarchiadau i’r holl dimoedd a gymerodd ran.

Fe hoffai Pwyllgor Clwb Ieunctid Llanybydder ddiolch i’n noddwyr a holl wirfoddolwyr am eu help a gwasanaeth dros y penwythnos.  Mae yna ormod i enwi.

Ymlaen â’r clwb i 2020. Diolch i chi gyd.