Carol Cerdd a Chân

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Côr Bytholwyrdd.
Côr Bytholwyrdd.

Neithiwr cynhaliwyd digwyddiad blynyddol pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbed, sef Carol Cerdd a Chân yn Eglwys San Pedr Llanbed.

Cafwyd noson hyfryd â naws hudol y Nadolig iddi.  A dyma sy’n digwydd bob blwyddyn yn y dref, a hynny nawr ers dros ddeng mlynedd ar hugain.

Croesawyd pawb i’r noson gan y Parch Ddr Marc Rowlands.  Cafwyd eitemau gan Gôr Corisma dan arweiniad Rhian Twynog, Côr Iau Ysgol Bro Pedr dan arweiniad Llinos Jones, a Chôr newydd lleol sef Bytholwyrdd dan arweiniad Rhiannon Lewis.

Kees Huysmans.
Kees Huysmans.

Darllenwyd o’r ysgrythur gan Pat Jones ac Ifan Meredith.  Cafwyd datganiadau ar gân gan Sara Elan Jones, Ela Mablen, Beca Ebenezer, Aled Wyn Thomas a Kees Huysmans.  Gwledd o dalentau lleol a llawer ohonyn nhw’n enillwyr cenedlaethol.  Darllenodd Manon Richards gerdd arbennig Twm Ebbsworth, sef cerdd fuddugol Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru.

Cafwyd awr a hanner dymunol iawn o garolau, cerdd a chân, a’r eglwys yn llawn fel pob blwyddyn.  Roedd y canu cynulleidfaol yn swynol iawn gyda Elonwy Huysmans yn cyfeilio ar yr organ.

Yn cynrychioli prif swyddogion Ysgol Bro Pedr gan gyhoeddi’r carolau oedd Lisa Evans ac Elin Davies.

Diolchodd Twynog Davies ar ran y pwyllgor gweithgar i bawb â gyfrannodd ac a gefnogodd, gan dalu teyrnged arbennig i Janet Evans a fu’n trefnu.  Codwyd swm sylweddol unwaith eto tuag at elusen Cymorth Cristnogol.