Archeolegydd o Lanbed am newid ein syniadau am hanes Cymru

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
David Austin a' ffermdy a wal yr ardd y tu cefn iddo
David Austin o flaen hen ffermdy Ystrad Fflur

David Austin yn datgelu pwysigrwydd Abaty Ystrad Fflur yn y freuddwyd o greu gwladwriaeth Gymreig

Mae archeolegydd o Lanbed yn dweud bod gwaith arloesol ar abaty enwog yng Ngheredigion yn mynd i newid ein syniadau ni am hanes Cymru.

Mewn erthygl yn nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae’n datgelu sut yr oedd yr abaty o’r 12fed ganrif, yn ganolbwynt i freuddwyd am wladwriaeth Gymreig annibynnol.

Mae ei waith hefyd, meddai, yn profi bod yr abaty wedi ei godi ar seiliau hen abaty Celtaidd cynharach, a bod safle’r adeilad wedi bod yn fan sanctaidd i bobol Cymru ers miloedd o flynyddoedd.

Y dyn a’i waith

Mae David Austin yn gyn-Athro Archeoleg ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, a’r archeolegydd cyntaf i gael ei benodi gan y brifysgol yng nghanol yr 1970au.

Ers dechrau’r ganrif mae wedi bod yn cynnal ymchwil ar safle Abaty Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid.

Yn 2006, fe sefydlodd David Austin ymddiriedolaeth er mwyn parhau i ymchwilio i safle’r abaty ac i’w datblygu’n ganolfan ar gyfer dehongli hanes Cymru, gydag Ystrad Fflur yn rhan bwysig ohono. ô

Ers tair blynedd bellach, mae gwaith yn cael ei gynnal ar un o adeiladau fferm hynafol yr abaty, ac fe fydd y ffermdy ei hun hefyd yn cael ei addasu. Mae’r adeilad 300 oed, sydd â pheth o un o furiau’r abaty yn rhan ohono, yn hen gartref i’r dyn amaeth, Charles Arch, a’i deulu.

Pan gychwynnodd David Austin gloddio ar safle’r abaty gyda myfyrwyr o’r Brifysgol, fe sylweddolodd fod y safle dipyn yn fwy na’r olion sydd i’w weld heddiw.

“O’n i’n gwybod y byddai safle’r abaty’n fwy, ond fe ges i fy syfrdanu o weld pa mor fawr oedd e mewn gwirionedd,” meddai yn Golwg. “Mae’n 126 o erwau, sy’n golygu mai dyma’r abaty mwya’ yng ngwledydd Prydain o’r rhai sydd wedi eu harchwilio’n llwyr.”

Canolbwynt i wladwriaeth Gymreig

Yn dilyn y sylweddoliad hwn, mae David Austin yn awyddus i gladdu’r hen farn mai abaty digon cyffredin gyda rhai cysylltiadau diwylliannol oedd Ystrad Fflur.

Mae maint y lle wedi arwain iddo ofyn beth oedd ei union bwysigrwydd yn ystod Oes y Tywysogion, a pham fod yr Arglwydd Rhys wedi symud y sefydliad yn 1184 o leoliad arall ychydig filltiroedd i ffwrdd.

“Roedd yr Arglwydd Rhys yn bwriadu iddi fod yn ganolfan wleidyddol i wladwriaeth Gymreig,” meddai. “Bwriad yr Arglwydd Rhys oedd creu gwladwriaeth Gymreig i wrthsefyll y wladwriaeth Seisnig.

“Am ugain mlynedd, roedd ei weledigaeth yn fyw.”