Arian ar gael i adfywio canol tref Llanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Llambed yn un o 6 thref sy’n  gymwys i dderbyn arian o gronfa werth £2.14m.

Mae Cronfa Fuddsoddi Eiddo Canol Tref (TCPIF) ar gael i feddianwyr a pherchnogion adeiladau masnachol. Y 5 tref arall sy’n gymwys i dderbyn arian  yw Aberhonddu, Llandysul, y Drenewydd, Tregaron, a Llandrindod.

Diben y gronfa yw gwella tu blaen adeiladau a galluogi gofod llawr masnachol a phreswyl sy’n segur i gael ei ddefnyddio at ddibenion busnes unwaith eto.

Bydd yr arian yn hwb i economïau lleol yr ardal, yn ôl Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn datganiad i’r wasg.

“Rwy’ eisiau cefnogi busnesau lleol, datblygu ein canol trefi gwych a chreu swyddi yn y canolbarth.

“Bydd creu mwy o safleoedd masnachol a manwerthu o safon yn helpu i gyflawni hyn.”

Mae disgwyl i ymgeiswyr ddangos eu bod nhw wedi ystyried dewisiadau cyllido eraill cyn gwneud cais.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio yng Nghyngor Sir Ceredigion:

“Mae Llandysul, Tregaron a Llanbedr Pont Steffan yn llawer mwy na briciau a morter. Maen nhw’n gartrefi i gymunedau bywiog sy’n frwdfrydig iawn am eu rhan nhw o Geredigion.

Mae angen i ni wyrdroi’r dirywiad yn ein canol trefi er mwyn i’r cymunedau hyn allu ffynnu yn y dyfodol.

Mae’r Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo yng Nghanol Trefi yn help mawr i gyflawni hyn, ac rwy’n gobeithio y bydd yn cael effaith wirioneddol.”

Fe wnaeth Maer Llanbed, Rob Phillips, groesawu’r cynllun: “ Mae’n bwysig bod yna eiddo ar gael i bobl sydd am ddechrau busnes yn y dref. Mae sawl adeilad gwag”.

“Ry’n ni wedi trosglwyddo gwybodaeth am y gronfa i unigolion a sefydliadau lleol, gan gynnwys y Siambr Fasnach”.