Carnifal Llanbed 2019

gan Carnifal LLanbed

Roedd diwrnod y Carnifal wedi cyrraedd ar ôl wythnos dda o gystadlu yng ngweithgareddau’r wythnos.

Bore cymylog yn bwgwth glaw a phawb yn llwytho fordydd a stolion i fynd i’r Clwb Rygbi. Y Pebyll fyny a stondinau yn cyrraedd yn barod i werthu eu nwyddau. Glaw yn cyrraedd ond cawod oedd a’r haul yn tywynnu.

Am 12.30 roedd 5 fflot yn barod i ddilyn y Maer a’r Faeres Rob Phillips a Delyth Phillips a Tryfan wrth gwrs efo PCSO Iona trwy’r dre. Roedd y miwsig yn bwrlymu allan o’r Uchelseinydd a’r Frigad dân yn dilyn. A wedyn Fflot Brenhines y Carnifal yn dod yn brydferth iawn.

Y Frenhines eleni oedd Summer Howden, a’i chynorthwywyr oedd Tia Gilbert, Amy Mathews, Hari Jenkins a Rhun Davies.

Trwy’r dre a’r pobol ar ochr y rhewlydd yn gwylio wrth fynd i fyny i’r Clwb lle roedd torf o bobol yn ein disgwyl. Fyny hefyd oedd beirniaid y dydd sef Susan a Brynmor James a gwaith caled iawn o’u blaen.

Ar ôl i’r Maer wneud ei araith a choroni’r frenhines, roedd rhaid dewis y Fflot gorau,

1. Wizard of Oz – Cartref Hafan Deg

2. Sali Mali – Home Start

3. Cydradd – Gruffalo – Llewod Llanbed a Elfed – Dyfodol Cellan

Gwisg Ffansi Merch dan 2, 1. Erin Thomas, 2. Briallen Jones, 3. Erin Jones
Gwisg Ffansi Bachgen dan 2. 1. Luca Cerbu
Merched 2-4 1. Ffion Davies, 2. Agnes Evelyn, 3. Nansi Jenkins.
Bechgyn 2-4 1. Jett Davies, 2. Jaiden Gilbert, 3. Madog Morgan.
Merched 5-7 1. Nia Davies, 2. Tia Gilbert, 3. Cadi Davies
Merched 8-11 1. Lily Evans, 2. Elin Morgan, 3. Catrin Davies.
Bechgyn 8-11 1. Coley Shaw, 2. Vinny Shaw
Pâr 11 a thano 1. Ffion a Nia Davies, 2. Tia a Jaiden Gilbert, 3. Briallen a Elan Jones.
Merched 12-15 1. Catrin Daniels

Agored dros 18 1. Ann Davies, 2. Gwawr Bowen, 3. Sian Jenkins

Pâr dros 18 1. Rosalind Thomas a Lleucu Ifans
2. Ann Davies a Sian Jenkins. 3. Avril Gartland a Lena Brown.
Prif Ennillydd Lily Evans -Rownd y byd mewn 80 diwrnod

Ymlaen wedyn am y Mabolgampau ond oherwydd y tywydd dim ond y rasus a wy a llwy medrodd cael eu cynnal.  Ond er gwaethaf y glaw roedd pawb yn mwynhau ar y cae a fe gliriodd y glaw a wedyn bu Taflu’r Welinton a llawer o gystadleuwyr yn dod i Ffeinal rhwng Sue Davies a Owain Jacob, a Owain yn dod i’r brig ac yn ennill tlws coffa Dai Phillips yn rhoddedig gan y Teulu .

Diwrnod a Wythnos Lwyddiannus a hoffai’r Pwyllgor diolch i bawb am gefnogi ni eleni eto.