Cerdded mas ar lwyfan mewn bicini bach pinc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cerdded mas ar lwyfan y CFfI mewn bicini bach pinc oedd yr eiliad o’r embaras mwyaf i Siôn Evans o New Inn, ond o ddarllen amdano yng ngholofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc, cewch weld ei fod yn dipyn o dderyn.

Mae Siôn yn gweithio i Gartrefi Redwood ac yn dweud mai’r pethau gorau am ei swydd yw cael “gweithio da gang da o weithwyr a’r amrywiaeth eang o waith gwahanol”.

Ond ar y llaw arall, mae yna sawl peth sy’n mynd o dan ei groen.  Y peth gwaethaf am yr ardal hon meddai yw “Dim lot o signal ffôn”. Ac mae pobl sy’n gallu siarad Cymraeg, ond yn dewis peidio yn ei gythruddo hefyd.

Mae Siôn yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni, ac roedd cael ei ddewis i fod yn Lysgennad CFfI Sir Gâr yn un o’r eiliadau balchaf iddo’n bersonol.

Y gwyliau gorau iddo yw’r Royal Welsh a’i arferion gwael e yw rhechen a rhegi.  Yn rhifyn Rhagfyr Clonc, gellir dysgu llawer iawn mwy amdano.  Beth sy’n codi ofn arno?  Pryd aeth e’n grac ddiwethaf?  Beth oedd yr eiliad a newidiodd ei fywyd?  Ac ar beth y mae’n gorwario arno?