Cneifio Llambed 2019

gan Ffion Jenkins

Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn yng Nghneifio Llambed eleni a gynhaliwyd ar yr 20fed o Orffennaf ar Fferm Capeli, Cribyn drwy garedigrwydd y Brodyr Williams.

Dechreuwyd ar y cystadlu fore dydd Sadwrn gyda dros £2,500 i’w hennill drwy gydol y dydd. Llywydd y dydd oedd Mr Emyr Richards, Goedwig, Llambed.

Dyma oedd y canlyniadau-

Dosbarth Iau: Noddwyd gan Teifi Forge Ltd

1.    Rhidian Edwards

2.    Marc Gwynne

3.    Sam Jones

4.    Dewi Jones

5.    Alex Butler

6.    Dafydd Roberts

Gwobr ansawdd noddedig gan ‘Caegwyn Farm Supplies’: Mark Harries

Enillydd y wobr leol: Cynan Evans

 

Dosbarth Canol: Noddwyd gan Gwili Jones a’i feibion

1.    Dyfan Jones

2.    Emlyn Jones

3.    Llion Harries

4.    Dafydd Evans

5.    Dafydd Roberts

6.    Guto Jones

Gwobr ansawdd noddedig gan C.Ff.I Felinfach: Dyfan Jones

 

Dosbarth Uwch: Noddwyd gan Lloyds Animal Feeds

1.    Ieuan Morris

2.    Steffan Jenkins

3.    Rhys Douglas

4.    Alex Bennett

5.    Elis Ifans

6.    Gwydion Davies

Gwobr ansawdd noddedig gan Sioe Gorsgoch: Meirion Evans

 

Dosbarth Agored: Noddwyd gan Dunbia

1.    Richard Jones

2.    Alun Lloyd Jones

3.    Gavin Mutch

4.    Matthew Evans

5.    Jack Fagan

6.    Gareth Evans

Gwobr ansawdd noddedig gan Dafydd Mills Tociwr Traed Gwartheg: Gareth Evans

 

Cneifio Gwellau: Noddwyd gan Steel Fab Wales Ltd

1.    Rheinallt Hughes

2.    Elfed Jackson

3.    Gareth Owen

4.    Richard Till

5.    Rhydian Evans

6.    Loic Jauberthie

 

Prawf Cymru yn erbyn Seland Newydd: Noddwyd gan Gwyn Lewis Carpets Ltd, Llambed

1.    Seland Newydd

2.    Cymru

 

 

 

Prawf Cymru yn erbyn Ffrainc: Noddwyd gan Mayes Tyres, Llanybydder

1.    Cymru

2.    Ffrainc

 

 

 

Hoffai’r pwyllgor ddiolch i’r holl feiriniad, amserwyr a chyflwynwyr, ynghyd â chyflenwyr yr holl ŵyn, a’r cystadleuwyr. Hefyd diolch i Fferm Capeli am y lleoliad arbennig ac am eu caniatad i gynnal y gystadleuaeth ar ei fferm ac am eu holl gymorth.

Diolch hefyd i’r holl noddwyr uchod ac i’n noddwyr eraill:

  • Pencefn Feeds Ltd
  • Milfeddygon Steffan Vets
  • Evans Bros
  • Lister
  • W.D.Lewis a’i Fab
  • Arwyn Evans Shearing Supplies
  • Roy Thomas Farm Supplies
  • Morgan & Davies
  • Wairere U.K
  • British Wool
  • Shearwell Data

am eu cyfraniadau hael a’u cefnogaeth er mwyn sicrhau diwrnod llwyddiannus. Diolch i bawb fuodd yn cefnogi ar y diwrnod ac i bawb sydd yn paratoi cyn ac ar ôl y gystadleuaeth.

Mae mwy o wybodaeth, lluniau a fideos o’r holl rowndiau terfynol eleni ar gael ar ein tudalen facebook sef – ‘Cneifio Llambed / Lampeter Shears’.