Codi arian tuag at Eisteddfod 2020

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Noson Stwffio yn Llanbed. Llun @wyn_jone
Noson Stwffio yn Llanbed. Llun @wyn_jone

Mae’r holl bwyllgorau apêl yn ardal Papur Bro Clonc wedi eu sefydlu a gweithgareddau yn digwydd o un i un er mwyn codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn Llanbed nos Fawrth gyda Noson Stwffio yn y Shapla.  Codwyd tua £500 gyda’r nod yn y pen draw o gyrraedd £12,500.  Swyddogion y pwyllgor codi arian yn Llanbed yw Ann Bowen Morgan – Cadeirydd; Rhys Bebb Jones – Trysorydd; Carys Lloyd Jones a Carys Davies yn ysgrifenyddion, a Delyth Morgans Phillips yn is-gadeirydd.  Y digwyddiad nesaf fydd Cwis a Lluniaeth yn Nhafarn Llain y Castell ar yr 22ain Mawrth.

Ddechrau mis Ionawr cafwyd cyfarfod yn Neuadd Llanfair Clydogau ar gyfer pobl Llanfair a Chellan. Da oedd cael croesawu Arwel Jones i annerch y cyfarfod er mwyn rhoi gwybodaeth ynglŷn â beth a ddisgwylir oddi wrth y pwyllgor a phobl yr ardal gyda syniadau am sut i godi arian. Roedd yn galondid mawr i gael 29 yn bresennol. Mae ardal Llanfair a Chellan yn gorfod codi £2,000 tuag at gronfa’r Eisteddfod.

Pwyllgor Llanfair a Chellan. Llun Alan Leech.
Pwyllgor Llanfair a Chellan. Llun Alan Leech.

Cymerwyd y cam cyntaf o drefnu pwyllgor gydag Eleri Davies yn gadeirydd, Lilian Jones yn is-gadeirydd, Aerwen a Dan Griffiths yn ysgrifenyddion, ac Alwen Edwards yn drysorydd. Y digwyddiad cyntaf yw Bore Coffi, Raffl a Chlonc gyda bwrdd yn gwerthu cacennau. Cynhelir hyn ar ddydd Sadwrn, 23ain Chwefror o 11.00 y.b. hyd 1.00 y.p. yn Neuadd Llanfair.  Mynediad yn £2 a phlant am ddim.

Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf pwyllgor Llanwnnen a Llanwenog yn Neuadd Gorsgoch nos Sadwrn ddiwethaf gyda Noson Stomp a Romp.  Y disgwyl yw y bydd y noson wedi codi tua £1,000 at gronfa’r ddau blwyf, gyda mwy na 100 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer yr adloniant a chaws a gwin a gafwyd.  Swyddogion yr ardal hon yw Euros Davies yn gadeirydd; Carol a Wendy Davies Ysgol Dyffryn Cledlyn yn ysgrifenyddion gydag Alwena Williams yn drysorydd.

A nos Fercher y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf pwyllgor apêl Llangybi yn Ysgol y Dderi.  Enwyd y gronfa yn Gronfa Golwg y Dderi lle y bydd disgwyl codi £2,000.  Dewiswyd y swyddogion canlynol: Cadeirydd – Lisa Regan; Is Gadeirydd – Elliw Davies; Ysgrifennydd – Lowri Pugh-Davies; Trysorydd – Trish Lewis. Mae yna drefniadau i gynnal sawl digwyddiad yn yr ardal ac fe gyhoeddir y manylion eto.

Bwrlwm o ddigwyddiadau felly, mewn ardal fechan a chwilfrydedd i gefnogi prifwyl Cymru a gynhelir yn y sir.

1 sylw

RobP
RobP

A bydd Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed ar 16 Chwefror yn codi arian tuag at apêl leol Eisteddfod 2020 a Mind Cymru eleni.

Mae’r sylwadau wedi cau.