Codi ymwybyddiaeth a chodi arian at wasanaeth Cemotherapi

gan Arwyn Davies

Daeth cynulleidfa o 450 o bobl i gyngerdd yn Neuadd Gelfyddydau Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, er budd y gronfa a sefydlwyd i ddatblygu Uned Cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais.

Trefnwyd y cyngerdd gan Arwyn Davies, a oedd yn glaf Cemotherapi yn Ward Leri tan yn gynharach eleni.

Gyda phob tocyn wedi eu gwerthu, ‘roedd yr artistiaid yn cynnwys Bois y Gilfach, y mae Arwyn yn aelod ohono, Côr Llanddarog a’r tenor enwog Rhys Meirion.

Arweiniodd yr actores a chyflwnydd teledu Ffion Dafis drafodaeth yn ystod yr egwyl i godi ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn ac o waith ward Leri. Ymunodd Llywydd y noson, AC Ceredigion, Elin Jones yn y drafodaeth, yn ogystal â nyrs arweiniol Ward Leri, Rhian Prys-Jones, ac Arwyn Davies.

Mae Bois y Gilfach yn gôr sy’n diddanu cynulleidfaoedd lleol gyda chymysgedd o himwor a cherddoriaeth, a’u nod yw codi arian at achosion da lleol. Eleni, maent wedi dewis yr ymygyrch i godi arian tuag at ddatblygu ward pwrpasol newydd i drin cleifion Cemotherapi ym Mronglais.

Mae Arwyn yn ddiolchgar iawn i’r Bois, i weddill yr artistaid, gwesteion a’r gynulleidfa niferus a ddaeth i gefnogi ac i fwynhau ar gampws Coleg Llambed.