Cofio Bethan Phillips

gan Twynog Davies
Bethan Phillips. Llun gan Ceris Lodwick.
Bethan Phillips. Llun gan Ceris Lodwick.

Prynhawn ‘ma, bydd Gwasanaeth Coffa Bethan Phillips yng Nghapel Shiloh Llanbed.  Bu farw ar y 30ain Hydref.

Roedd Bethan yn un o bobl Llanbed ac yn awdur a sgriptwraig deledu uchel ei pharch.  Dyma’r hyn a ysgrifennais amdani yn fy ngholofn ‘Cymeriadau Bro’ ym Mhapur Bro Clonc ym mis Mehefin 1999.

Mam i ddau o blant, dysgwraig pan yn ifanc, awdures doreithiog ac un sydd yn hoffi ymlacio yn sŵn cerddoriaeth hudolus Mozart.  Dyma rai o rinweddau amlwg Mrs Bethan Phillips.

Ganwyd Bethan yn Llambed ar aelwyd lle’r oedd yna fusnes celfi gan ei thad ar waelod Stryd y Bont.  Cafodd ei mam ei geni yn Ne Affrica ond daeth i Lambed i weithio, ac yno y cyfarfu â D. D. Richards – tad Bethan, gŵr a’i ddylanwad yn fawr ar weithgareddau’r dref gan iddo fod yn Faer dair gwaith.  Daeth teulu ei mam o dref Penfro a bu ei thad‑cu yn brwydro yn y ‘Boer War’ ac ef oedd yng ngofal y trên a aeth i mewn i ryddhau gwarchae Mafeking.  Am yr orchest yma cafodd ryddfraint tref Penfro.

Saesneg yn bennaf oedd iaith yr aelwyd.  Roedd ei thad i ffwrdd yn y Llu Awyr a’i mam yn uniaith Saesneg, ond bu dylanwad ei mam-gu o Laingoch, Llanfair Clydogau yn fawr arni.  Prin oedd y Gymraeg i’w glywed yn yr ysgol gynradd ond bu mynychu Ysgol Sul Shiloh yn help i ehangu ei gwybodaeth o’r Gymraeg.  Bu Bethan hefyd yn ddyledus i Miss Sali Davies yn yr Ysgol Uwchradd a roddodd pob cefnogaeth ac anogaeth iddi feistroli’r Gymraeg.  Ar ôl astudio Saesneg a Lladin ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyfarfu â’i phriod John, a oedd ar y pryd yn fyfyriwr ymchwil, a dyma briodi ar ôl gadael Coleg.

Treuliodd y ddau eu blynyddoedd cyntaf yn dysgu yn Llundain ond roedd yna dynfa yn ôl i Gymru.  Cafodd Bethan swydd dysgu Saesneg yn Ysgol Ramadeg Rhymni, ond ar ôl ychydig penodwyd John i swydd weinyddol yn Aberdâr ac yno y ganwyd Geraint.  Dod yn ôl i Geredigion oedd y nod serch hynny ac yn 1965, penodwyd John yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Ceredigion. Bu hwn yn gyfnod tu hwnt o hapus i’r teulu tra’n byw yn Aberystwyth.  Yn ystod y cyfnod yma ganwyd eu merch Catrin.

Magodd Bethan ddiddordeb i ysgrifennu ers yn ifanc.  Tra yn y Coleg, enillodd ysgoloriaeth deithio a gwobrau am ysgrifau Saesneg.  Ar ôl ymgartrefu yn Llambed yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol dechreuodd ymddiddori yn hanes bywyd Syr Herbert Lloyd Ffynnonbedr, ac am ei chyfrol werthfawr ar Peterwell, enillodd radd M.A.  Roedd yr ysfa a’r diddordeb i ysgrifennu yn rhan annatod ohoni bellach.  Ysgrifennodd sgriptiau radio ar Hedd Wyn, John Harries (y dyn hysbys) a’r Swagman Cymreig cyn mentro i fyd y teledu.  Danfonodd sgriptiau i’r rhaglen boblogaidd Almanac a ffilmiwyd rhaglenni ar Y Dyn Hysbys, Y ‘Duel’ hanes Duel yng Nghastell Newydd Emlyn, a Sara Abel Morgan, a seliwyd ar hanes tlotyn yn Llyfr Plwyf Llambed. Cyfrannodd bytion hefyd at raglenni Hel Straeon.  Cofiwn yn arbennig am ei chyfres o ddeuddeg rhaglen ar lofruddiaethau y gorffennol o dan y pennawd ‘Dihirod Dyfed’.  Roedd casglu’r wybodaeth yn golygu misoedd o waith ymchwil.  Dyma gyfres o raglenni a erys yn hir yn y cof.

Ffrwyth arall o’i llafur di-flino yw ei bod wedi gwneud tua hanner cant o ‘fideos’ mewn cydweithrediad ac ysgolion ac unigolion.  Ymysg y trysorau mae yna ‘fideo’ ar y Dr Islwyn Ffowc Elis, Dic Jones, Waldo, Soar y Mynydd, Eglwys y Mwnt, ac Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi.  Enghraifft arall o’r cyfoeth yma oedd olrhain hanes y Pêr Ganiedydd a dilyn ôl ei draed i’r mannau cysegredig hynny, sef Llyn Brianne a Llangeitho.  Ar y ‘fideo’ mae’r cymeriad annwyl Ieuan Williams, Abermangoed, Cwrt y Cadno, yn canu rhai o emynau Pantycelyn.  Ar hyn o bryd mae’r ‘fideos’ ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond bwriad Bethan yw cael copïau o’r rhain yn y Llyfrgell leol yma yn Llambed, ar gyfer y cyhoedd.

Ond roedd mwy eto i’w wneud;  penderfynodd y buasai yn ymchwilio i fywyd y cymeriad rhyfeddol hwnnw Joseph Jenkins Trecefel Tregaron. Y Swagman Cymreig.  Roedd hwn yn fenter uchelgeisiol gan fod hyn yn gofyn am ymchwil drylwyr er mwyn dadansoddi ei ddyddiaduron.  Yn 1973 penderfynodd ymweld ag Awstralia er mwyn dod i wybod mwy am y mannau, y cysylltiadau a’r llwybrau y cerddodd Joseph Jenkins ar ôl ymfudo.  Gofynnwyd iddi gan Gymdeithas Llyfrau Ceredigion i lunio cyfrol i nodi canmlwyddiant ei farw.  Erbyn hyn mae’r clasur yma o fywyd Joseph Jenkins “Rhwng dau fyd” wedi gwerthu tua 2,000 o gopïau.  Eisoes, cydnabyddir y llyfr ymysg y tri gorau gyhoeddwyd yn 1999.  I mi, dyma lyfr na fedrir ei adael ar ôl dechrau ei ddarllen.  Mae trigolion Awstralia wedi clywed am stori ryfeddol Joseph Jenkins ac mae cais am gael cyfieithiad o’r llyfr i’r Saesneg a dyma’r sialens nesaf sy’n wynebu Bethan.  Ei bwriad er hynny yw sôn mwy am helyntion Joseph Jenkins yn ystod ei gyfnod yn Awstralia.

Pedair blynedd yn ôl, wynebodd Bethan salwch a threuliodd gyfnod pryderus yn yr ysbyty.  Awgrymodd y meddyg mai’r therapi gorau i gryfhau, oedd cerdded, a bydd hi a John yn aml i’w gweld yn cerdded y ffyrdd o gwmpas llonyddwch a dedwyddwch Eglwys Maestir.  Mae’n gwybod bob modfedd o’r ffordd bellach o gwmpas Tyllwyd a’r Hendryd, a bydd yna gyfle weithiau i gael sgwrs gyda rhai o gymeriadau lliwgar yr ardal fel Aneurin Tynffynnon!  Mae Bethan o’r farn, ac yn credu’n gryf bod gweld dyfodiad y tymhorau, a bod mewn cymundeb â natur, wedi bod o help iddi yn ei adferiad.

Efallai fod y teitl ‘Rhwng Dau Fyd’ yn wir am fywyd Bethan a John bellach, oherwydd byddant yn treulio cymaint o amser ag sydd bosibl yn ‘Sacramento’ yn ymweld â Catrin a’i phriod a’r wyres fach Ffion.

Anodd ydi mesur cyfraniad amhrisiadwy Bethan ers iddi ddechrau ysgrifennu.  Ei nod bob amser yw cyflwyno hanes mewn modd sydd yn ddiddorol ac yn hawdd ei ddeall.  Gweithiodd yn ddiwyd, a hynny nid am unrhyw fudd ariannol, ond er mwyn i Gymru gyfan, ac yn enwedig pobol Ceredigion a’r hen Ddyfed, atgoffa eu hunain am galedi a dioddefaint y gorffennol.  Mi ddylai hyn ein gwneud ni i gyd i werthfawrogi y presennol yn fwy.  Mae ein dyled yn fawr iddi.