Côr Cwmann: Cyngerdd Mawreddog

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
Côr Cwmann gydag Ellen Williams, Kees Huysmans, Elonwy Davies ac Elonwy Pugh Hyusmans.

Dyma luniau o’r Cyngerdd Mawreddog llwyddiannus gynhaliwyd gan y Côr yng nghwmni Ellen Williams, Kees Huysmans a phlant Ysgol Carreg Hirfaen yn Neuadd Sant Iago, Cwmann, nos Wener 6ed Medi.

Llywydd y noson oedd Mr Twynog Davies ac yn ei anerchiad cyfeiriodd at peth o’i hanes yn aelod o’r Côr. Cyfeiriodd hefyd at waith dyngarol Cymorth Cristnogol led led y byd gan ddiolch bod rhan o elw’r noson yn mynd i gefnogi gwaith yr elusen.

Cafwyd gwledd o ganeuon gan Ysgol Carreg Hirfaen, gan gôr yr ysgol a’r unawdwyr Annie, Brychan a Trystan. Bu’n hyfryd croesawu Ellen o Gaerdydd yn ôl i’r fro, gyda’i llais soprano bendigedig yn swyno’r gynulleidfa. Yr un mor gyfoethog yw llais bás Kees, a’i ddewis o unawdau yn dangos ei ddawn gerddorol. Yr oedd ei ddeuawd gydag Ellen o gân adnabyddus Robat Arwyn, ‘Anfonaf Angel’ ymhlith uchafbwytiau’r noson.

Twynog Davies, Ellen Williams a Kees Huysmans
Twynog Davies, Ellen Williams a Kees Huysmans

Dymuna’r Côr ddiolch i Ellen, Kees, Ysgol Carreg Hirfaen a’n Llywydd Twynog am noson wefreddiol; i Elonwy Davies ac Elonwy Pugh Huysmans am eu cefnogaeth ac i bawb gyfranodd at drefniadau’r noson; i’r noddwyr Morgan a Davies, Eden Tours, Bysiau Vincent Davies a’i Fab, Aerwen Griffiths, Gwilym Price ei Fab a’i Ferched, Garej D D Evans a’i Fab a Gwerthwyr Blodau Cascade am eu haelioni; ac i’r gynulleidfa sicrhaodd bod Neuadd Sant Iago yn gyfforddus lawn.

Y mae’r Côr bob amser yn falch o groesawu aelodau newydd. Dewch felly yn denoriaid a baswyr i’n ymarferion yn Festri Capel Brondeifi, Llanbed ar nosweithiau Mercher am 8.00 o’r gloch. Cewch wybodaeth bellach ar ein gwefan.