Crintachlyd – yn swnio’n gywir fel ti’n teimlo!

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

‘Crintachlyd’ yw hoff air Ceri Jenkins o Lanbed, ond o ddarllen colofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn, mae Ceri yn bell o fod yn grintachlyd.

Yn Swyddog Cymunedau Gwledig gyda Cynnal y Cardi, mae Ceri yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau o fynd i ystafell ffitrwydd gyda ffrindiau i chwarae hoci a thynnu’r gelyn.

Mae ganddi atgofion melys o chwarae gyda’i chefndryd ym Mart Llanybydder ar benwythnosau tra’n aros gyda mam-gu.  Cyfaddefa bod genedigaeth Sam ei brawd bach wedi newid ei bywyd a’i bod weithiau yn ddiamynedd tuag ato.

Mae’n dangos llawer o barch tuag at ei rhieni.  Petai’n sownd ar ynys anghysbell, byddai’n hoffi mynd â’i thad gyda hi gan nad oes llawer yn ei ofni.  Dywed hefyd fod ei mam wedi ei magu i fod yn frwdfrydig ac i gymryd pob cyfle mewn bywyd.  Ar y llaw arall, dywed fod Megan ei chwaer yn ddylanwad da arni fel arfer heblaw pan mae’n dod i dalu arian mawr ar esgidiau.

Ond beth oedd y peth mwyaf rhamantus a wnaeth rhywun iddi?  Beth oedd yr eiliad o’r embaras mwyaf?  Beth mae hi’n dyfaru gwneud? A beth oedd yr eiliad balchaf iddi’n broffesiynol?  Cewch ddarllen y cyfan yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc.  Mae Clonc Gorffennaf yn y siopau lleol nawr.