Criw o Sarn Helen yn codi arian i Parkinson’s UK

gan TeleriFflur

Ar ddydd Sadwrn 22ain o Fehefin fe ddaeth grŵp o feicwyr Sarn Helen sef Tim Strang, Eric Rees, Dorian Rees, Teifion Davies, Carwyn Davies ac Owen McConochie at ei gilydd i godi arian i elusen Parkinson’s UK.

Enw’r her oedd ‘Dawn till dusk’ sef seiclo o gwawr i gwyll. Dechreuodd y beicwyr am 4:55 y bore o Glwb Rygbi Llanbed tuag at Dregaron ac yna ymlaen i Swyddffynnon, Pontrhydfendigaid ac yna nôl i Dregaron cyn dychwelyd ar yr heol gefn nôl trwy Landdewi tuag at Gwmann.

Roedd un lap yn gyfaswm o 37 milltir a chyflawnwyd 6 lap o’r daith lawn ac un lap yn llai o amgylch Dregaron cyn gorffen y daith yn Nglwb Rygbi Llanbed am 9.45 yr hwyr er mwyn cwblhau cyfanswm gorffenedig anhygoel o 250 milltir.

Bu’r bechgyn yn seiclo am 16 awr a 45 munud gyda llawer o feicwyr yn ymuno yn ystod y dydd i wneud rhan o’r daith. Camp a hanner. Roedd y bechgyn yn ddiolchgar i weld wynebau newydd yn ymuno gyda nhw ar y daith.

Bu cefnogwyr yn galw i fewn i glwb Rygbi Llambed i’w cefnogi a’u noddi. Diolch i W D Lewis a’i fab am noddi’r crysau ac am eu cefnogi. Diolch i Cegin Haul a Lloyds Dairies am noddi’r bwyd ar gyfer y barbeciw ac i Geraint a Margaret am gael benthyg y barbeciw.

Diolch hefyd i unrhywun a fuodd ynglwm â gwneud yr her yn un i’w chofio i’r bois boed yn eu bwydo ar hyd y daith neu yn eu cefnogi.

Erbyn hyn mae’r cyfanswm yn tua £2,000 felly cofiwch bod dal amser i noddi’r bechgyn trwy gysylltu gyda nhw neu ar justgiving. Diolch i bawb am noddi.