Croeso i Gerddwyr yn ein tref

gan Rob Phillips

Mae Llanbedr Pont Steffan ar y ffordd i ennill statws Croeso i Gerddwyr, yn y gobaith y byddwn yn annog pob lleol i wneud mwy o ddefnydd o’r llwybrau cerdded a denu ymwelwyr.

 

Mae’r statws Croeso i Gerddwyr yn cael ei rhoi i drefi a phentrefi sy’n cefnogi cerddwyr trwy gyrraedd safonau cenedlaethol fel darparu mapiau, taflenni a gwybodaeth eraill, trefnu digwyddiadau i hyrwyddo cerdded, cynnal llwybrau cerdded a sicrhau bod yna groeso cynnes i gerddwyr mewn llety lleol.

Mae grŵp o bobl brwd o’r ardal, gan gynnws cynrychiolwyr Cyngor y Dref, y brifysgol, Hanes Llambed, Transition Llambed, Grŵp Coed Hir, y Cerddwyr a busnesau lleol wrthi’n paratoi’r cais.

Mae Cyngor y Dref wedi rhoi cefnogaeth i’r cynllun, ond mae angen dangos cefnogaeth o leiaf 250 o drigolion lleol. Bydd ffurflenni yn cael eu dosbarthu o gwmpas y dref, mewn caffis, siopau a chyfarfodydd cymdeithasau lleol. Mae pob llofnod yn cyfrif, a buasem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn. Mae pob enw yn helpu ni agosau at y statws.

Mae gan Llanbedr Pont Steffan lawer i’w cynnig i gerddwyr. Mae rhwydwaith o lwybrau cerdded trwy’r cefn gwlad, trwy coedwigoedd a dyffrynnoedd, ar draws bryniau ac ar hyd afonydd. Yn wir, mae’r dref yn ganolfan bwysig i gerddwyr hanesyddol – y porthmyn!

Mae llwybr y Sistersiaid yn pasio trwy’r dref, ac mae digon o gyfleusterau – caffis, gwestai, tafarndai, siopau a thoiledau ar gyfer pererindod gyfoes. Bydd ennill statws Croeso i Gerddwyr yn arf arall i sicrhau bod ein tref ar y map.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Kay Davies (01570 480041), Rob Phillips neu Selwyn Walters, neu ewch i wefan Croeso i Gerddwyr.