Cwrdd â CFfI Llanddewi Brefi

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Cafodd Bro360 noson hwylus iawn yn cwrdd â chreu cynnwys gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi, a dyma’r canlyniad – fideo yn cyflwyno rhai o’r arweinyddion, swyddogion ac aelodau, ac yn rhoi blas i chi o fywyd y clwb!

Mae’r clwb yn cwrdd pob nos Iau am 8:00pm yn Neuadd Llanddewi ac mae ‘na groeso i bawb rhwng 11 a 26 oed.

Os ydych eisiau Bro360 ddod i gynnal sesiwn â’ch clwb chi, cysylltwch â post@bro360.cymru