Cwrw Cymreig ar gyfer achosion da!

gan Rob Phillips

Cynhaliwyd Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed am y pumed tro ar ddydd Sadwrn 16fed o Chwefror, ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Fel arfer, roedd yr ŵyl yn neuadd y Celfyddydau ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a chafodd ei drefnu gan Ford Gron Llanbedr Pont Steffan.

Roedd yr aelodau yn brysur ers wythnoau yn paratoi ar gyfer yr ŵyl – dethol a phrynu cwrw a seidr Cymrig, trefnu adloniant a hyrwyddo’r digwyddiad. Roedd 24 cwrw a 22 seidr amrywiol o fragdau gan gynnwys Cwrw Llyn (Nefyn), Bragdy Twt Lol (Trefforest), Bragdy Tenby Harbwr (Dinbych y Pysgod) a Bragdy Lleu (Caernarfon). Daeth Sedir o nifer o gynnyrchwyr gan gynnwys Gethin’s (yn wreiddiol o Lambed), Seidr y Mynydd a Gwynt y Ddraig.

Roedd ambell gwrw diddorol, gan gynnwys Marshmallow Porter a seidr cynnes.

Roedd hefyd amrywiaeth o adloniant byw gan gynnwys Candy Mountain a Chariad.

Agorwyd yr ŵyl gan Faer y Dref, y Cyng. Ann Bowen Morgan, ac yfwyd dros 2,500 peint i gyd, gyda thros 500 o bobl yn dod i’r ŵyl.

Daeth CAMRA Bae Ceredigion i redeg tombola,  Bishop of Bedlam i gynnal gêm ddartiau.

Nod yr ŵyl yw hyrwyddo cwrw a seidr Cymreig, codi arian i achosion da a chynnig ychydig o hwyl yn y dref ar adeg oer a gwlyb. Roedd y cyfan i godi arian tuag at achosion da. Nid yw’r ffigyrau terfynol yn hysbys eto, ond eleni bydd yr arian yn mynd tuag at Mind Cymru a chronfa apêl lleol ar gyfer Eisteddfod Ceredigion 2020.

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi, ac i’r busnesau lleol oedd wedi noddi’r digwyddiad. Byddwn yn cymryd seibiant cyn dechrau trefniadau ar gyfer y chweched ŵyl yn 2020.

Mae’r Ford Gron yn glwb i ddynion ifanc ac rydym bob amser yn awyddus i gael aelodau newydd. Croeso i chi gysylltu â ni os oes diddordeb gyda chi i ymaelodi trwy ein tudalen Facebook.