Cymanfa’r Cyhoeddi – Eitem Pwyllgor Maes B

gan Elin Haf Jones
Aelodau Pwyllgor Maes B. Llun: @ElinCeredigion.
Aelodau Pwyllgor Maes B. Llun: @ElinCeredigion.

Dyma’r gerdd a berfformiwyd yng Nghymanfa’r Cyhoeddi gan bwyllgor Maes B i groesawu’r ‘Steddfod i Geredigion.

Diolch yn fawr iawn i Luned Mair am ysgrifennu’r gerdd.

 

Mae hi’n oer yn Aberaeron
Biti sythu yn Nhresaith
Mellt a thyrfe ar sgwar Llanbed
Dyddiau hir yn llwyd a maith.

Ond i dorri trwy’r cymylau
Daw na gerdd a dawns a chân
Daw yr haul a’i wres i dwymo,
Rhwygo’r llwydni’n ddarnau man.

Bydd ’na chwerthin ym Mydroilyn
Cynganeddu’n Synod Inn
Bydd yr orsedd ar brom Aber
A bydd rêf yng Nghoed y bryn.

Bydd cadeirio ar Gors Fochno
Canu roc yn Nhanygroes
Carafanio yn Llanwenog
Ffrindiau’n cwrdd a thynnu coes.

Ma ’na groeso ’ma da’r Cardis
O Bumlumon lawr i Mwnt
Bydd yr iaith fel cri y barcud
Lan i’r nefoedd – a thu hwnt!

Bydd na wres yn ugain ugain
Bydd Tregaron yn yr haul
Pan ddaw Steddfod Ceredigion
Bydd ’na barti heb ei ail.