Cyrsiau lleol yn cynnig cyfle i’r Brifysgol yn Llanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Fe fydd y Brifysgol yn Llanbed yn dod yn ganolfan ar gyfer cyrsiau i bobol leol, yn ôl cynllun newydd.

Fe fydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda Cholegau Sir Gâr a Cheredigion i gynnig cyrsiau addysg bellach.

Mae’r datblygiad wedi ei groesawu gan Faer y Dref, sy’n dweud ei fod yn cynnig dyfodol newydd i’r campws ar ôl pryderon am ei ddyfodol.

Fe fydd y colegau’n creu cyrsiau mewn meysydd lle mae cyfleoedd gwaith ar gael yn yr ardal, meddai’r dyn sydd newydd gael ei benodi’n bennaeth y campws yn Llanbed.

‘Darparu ar gyfer y boblogaeth leol’

“Mae’r Brifysgol yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd ei pherthynas â thref Llanbed”, meddai Gwilym Dyfri, sydd bellach yn Brofost y campws, mewn datganiad.

“Ymhlith y meysydd cyntaf i’w hysbysebu, mae cwnsela ac astudiaethau plentyndod a’r gobaith yw cynnig rhaglenni newydd mewn meysydd amgen cyn diwedd y flwyddyn academaidd.”

Y Maer yn croesawu’r newyddion

“Rwy’n hapus iawn i weld bod y Brifysgol yn dechrau rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynllun i wella’r campws,” meddai Maer Llanbed, y Cynghorydd Rob Phillips.

“Daeth Jeremy Smith o’r Brifysgol aton ni i drafod cynlluniau’r Brifysgol yn gynharach eleni, ac o’r rheiny, y bwriad i gynnig cyrsiau trwy’r Colegau [Ceredigion a Sir Gâr] oedd yr un mwyaf tebygol o weithio, a gwych yw ei weld yn cael ei roi ar waith.

“Dyma wir gyfle i’r Brifysgol wasanaethu ardal a phobol Llanbed. Mae ansicrwydd wedi bod yn y gorffennol agos, ond dyma ddatblygiad positif.”