Cystadleuaeth y CFfI yn gyfle i daclo’r diffyg sylw i hanes Cymru

gan Guto Jones

Gwelodd aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni gyfle i ddefnyddio cystadleuaeth boblogaidd yr Hanner Awr Adloniant eleni i lenwi bwlch ym myd addysg, trwy gynhyrchu sioe yn canolbwyntio ar hanes Cymru a phethau pwysig eraill sydd wedi digwydd yn y byd.

Bu CFfI Llanllwni yn perfformio mewn stafell orlawn yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach, ar nos Fercher yr 27ain o Chwefror.

‘Gwaith Cartref’ oedd teitl y sioe, a grëwyd ar gyfer cystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr. Roedd yn dilyn tri pherson ifanc yn edrych yn ôl ar sawl digwyddiad hanesyddol drwy gogls ‘virtual reality’.

Ond yn ogystal ag edrych ar sawl digwyddiad byd-eang, bu pwyslais ar hanesion Cymreig trwy gydol y cynhyrchiad, gan gynnwys stori Cantre’r Gwaelod a hanes sefydlu’r Orsedd. Dywedodd Lowri, un o’r prif gymeriadau “Nid oes digon o sylw yn cael ei roi i hanes Cymru, nid yw’n cael ei ddysgu yn yr ysgolion. Mae’n bwysig bod ein hanes yn cael ei adrodd, a chawsom y cyfle i wneud hynny yma”.

Y Cynhyrchydd oedd Gary Davies, sy’n perfformio’n aml gyda Theatr Felinfach ac yn un o’r tîm sy’n sgwennu’r Panto bob blwyddyn. Bu’r clwb yn ymarfer sawl gwaith yr wythnos am fis cyn y digwyddiad, ac roedd hoel y gwaith yma’n glir ar y noson wrth iddynt gwblhau’r perfformiad heb yr un camgymeriad.

Llanllwni oedd y clwb olaf o naw i gystadlu yn y gystadleuaeth, ac roeddent yn perfformio ar yr un noson a CFfI Capel Iwan a CFfI Llanfynydd. Clwb Penybont oedd enillwyr yr wythnos, ac mi fyddan nhw’n mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn siroedd eraill Cymru fis nesaf.

Bydd Llanllwni nawr yn cynnal noson o adloniant ar y 15fed o Fawrth yn neuadd Ysgol Bro Teifi, gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog yn westeion arbennig. Mae’r noson yn rhoi cyfle i godi arian i’r clwb ac i elusen. Bydd y cyfan yn cychwyn am 7:30pm.