Dadorchuddio Ceffyl newydd ar Sgwâr Llanybydder

gan Nerys Morris
Llun gan Menna Ashey.

Fe gafodd ceffyl newydd ei ddadorchuddio heddiw ar Sgwâr Llanybydder, sef ar Ddiwrnod Ffair Santesau.

Mae’r ceffyl yn disodli’r hen un pren a wnaethpwyd gan aelodau CFfI Llanllwni pan agorodd Gardd y Mileniwm yn 2000.

Bachgen lleol Alan Davies, Pistyllgwyn, Llanybydder a gafodd y gamp o gynllunio a chreu’r ceffyl newydd’r gymuned.

Llun gan Menna Ashley.

Fe glywodd y rhaglen deledu Heno am y dasg a phenderfynon nhw i ddilyn yr holl broces o’r dechreuad i’r diwedd.  Fe fydd yr hanes i gyd yn cael ei ddarlledu ar S4C.

Fe ddymuna’r Cyngor Cymuned a holl bobl Llanybydder ddiolch i Alan am ei holl waith ar y project yma ac yr ydym yn prowd iawn o’r ceffyl newydd sy’n cynrychioli’r Mart adnabyddus.

Mae’n atyniad arbennig i Lanybydder, ac yn harddu’r ardd hyfryd ger sgwâr y pentref.