Dathlu Dydd ein Nawddsant gyda Cawl a Chân

gan Sian Gwili

Fel rhan o ddathliadau tre Llanbed dros y penwythnos diwetha, trefnwyd noson “Cawl a Chân” gan Siambr Fasnach Llanbed yn y Clwb Rygbi nos Sadwrn 2il o Fawrth.  Ar noson wlyb a gwyntog, mentrodd nifer fawr o bobl allan gan wybod, mae’n siwr, fod yna wledd yn eu disgwyl – rhwng y cawl a’r caws, y pwdin reis a’r crymbls, ’roedd yna foliau tynn a hapus iawn erbyn diwedd y noson, ac mae ein diolch yn fawr i Delyth a Meinir (Pantri) wnaeth sicrhau bod y cyfan yn rhedeg fel wats!

Ymlaen wedyn at y wledd gerddorol, yn nwylo medrus Catrin (Dere i Dorri) a ‘Smudger’ (Mulberry Bush) – y naill yn ein swyno gyda “Finlandia” (ymysg eraill) gyda Wyn Maskell yn cyfeilio (yn ogystal â chyflwyno medli hyfryd o ganeuon Dafydd Iwan i ni), a’r llall yn cynnig cyfle i’r cantorion yn ein mysg i ymuno i ganu ambell hen ffefryn Tom Jones.

Diolch i holl fusnesau’r dre am eu cyfraniadau hael a brwdfrydig, ac yn wir i bawb wnaeth gefnogi mewn unrhyw ffordd.  Bydd elw’r noson yn mynd i goffrau’r Siambr (i helpu gyda’r costau cynyddol sy’n ymwneud â threfnu’r Noson Siopa Hwyr adeg y Nadolig), ac hefyd i Apêl Eisteddfod 2020.