Dathlu llwyddiannau Clwb Rygbi Llanybydder

gan Nerys Morris
Enillwyr gwobrau Clwb Rygbi Llanybydder.
Enillwyr gwobrau Clwb Rygbi Llanybydder.

Fe gynaliwyd Noswaith Wobrwyo Clwb Rygbi Llanybydder ar nos Wener y 10fed o Fai.

Dyma enillwyr y noswaith:

Joshua Jones – Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn;
Bleddyn John Jones – Chwaraewr y Flwyddyn;
Ricky “Lettuce” Davies – Chwaraewr y Chwaraewyr y Flwyddyn a’r mwyaf o geisiadau (22);
Alan Wilson – Personoliaeth Clwb y Flwyddyn;
Dafydd “Biff” Williams – Chwaraewr a wnaeth y cynnydd mwyaf.

Gary Jones – Llywydd y Clwb 2019/20

Cafwyd noswaith dda yn llawn hwyl a sbri gyda bwyd a charioci.

Braf gweld llawer o chwaeraewyr ifanc yr ardal wedi ymuno â’r clwb yn ystod y tymor.

Dymuna aelodau’r pwyllgor a’r chwaraewyr ddiolch i bawb a ddaeth i’w cefnogi yn ystod y tymor ac i’r holl noddwyr am eu nawdd hael.

Disgwyl ymlan i groesawu pawb nôl i “Gae OJ” ac i’r clwb tymor nesa.