Cynhliawyd yr Ŵyl Pice ar y Maen gyntaf Llambed dydd Sadwrn 21 Medi.
Roedd cystadleuaethau ar gyfer coginio y pice gorau yn nifer o gategoriau – gan gynnwys:
- Pice traddodiadol
- Pice gyda ffrwythau
- Pice gyda siocled
- Pice gydag alcohol
- Pice gyda jam
- Pice sawrus
Cafwyd dros 70 o geisiadau, a nifer o syniadau diddorol, gan gynnwys pice oedd yn edrych fel ‘Jammie Dodgers’, pice gyda chaws a phice gyda Nutella! Cafodd Hazel Thomas y gwaith anodd o feirniadu.
Roedd categoriau ar gyfer plant, oedolion a busnesau, ac roedd yn dda gweld nifer o fusnesau lleol gan gynnwys Gwesty’r Falcondale, Becws, Conti’s, Watson and Pratts a Granny’s Kitchen. Roedd yn dda bod nifer o bobl leol, gan gynnwys nifer fawr o blant, wedi rhoi cynnig arni.
Yn ogystal â’r coginio, roedd rasus ar gyfer plant ym Mharc yr Orsedd, cystadleuaeth liwio, stondinau gan Mark Lane, Watson and Pratts a Melysion Mam, a nifer o heriau bwyta.
Roedd cystadleuaeth i blant ac i oedolion i fwyta 3 picen, ac un her ychwanegol sef ‘Y Ddraig’. Dyma oedd cystadleuaeth bwyta un bicen gyda tsilis.
Diolch i Becws a Mark Lane am ddarparu’r pice ac i gwmni Castell Howell am noddi’r digwyddiad.
Cafodd yr ŵyl ei threfnu gan Ford Gron Llambed er mwyn dathlu cacen cwbl unigryw i Gymru, ac i godi arian tuag at gostau cynnal yr arddangosfa Tân Gwyllt ym mis Tachwedd.