Dau de = £4,200 … diolch i Ann ac Alan

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Ieuan Davies yn y canol a siec fawr o £4,200
Ann ac Alan Jones yn cyflwyno’r siec i Ieuan Davies

“Anhygoel”, “syfrdanol”, “ffantastig” – dyna’r geiriau oedd yn cael eu defnyddio i ddisgrifio dau de prynhawn yn Llanwnnen a gododd fwy na £4,000 at ymchwil canser.

Roedd Ann ac Alan Jones, Annedd Wen, wedi bod wrthi ers misoedd yn paratoi ar gyfer croesawu cyfanswm o 100 o bobol i wledd o fwyd ar ddau brynhawn yn eu cartre’.

Gyda phawb yn talu £20 y pen a raffl roddion a chyfraniadau eraill, fe ddaeth y cyfanswm yn y diwedd i £4,200 ac fe ddaeth y Cynghorydd Ieuan Davies o Lanybydder i dderbyn y siec ar ddiwedd y te ddydd Sadwrn.

Ef yw Cadeirydd cangen Llanybydder a Llanbed o Ymchwil Canser ac fe gadarnhaodd y byddai’r arian yn mynd at ymchwil i dri math gwahanol o ganser – canser y fron, canser yr ymennydd a chanser y coluddyn.

Fe dalodd deyrnged i Ann ac Alan am eu gwaith – roedd wedi golygu wythnosau ar wythnosau o waith paratoi, gyda phopeth wedi’i wneud gartre’ a’r ddau hefyd yn cyfrannu’r bwyd.

Gwledd

Roedd marcî bychan wedi ei godi yng nghefn Annedd Wen i dderbyn pawb a’r byrddau wedi wedi eu gosod mewn tair o ystafelloedd gwahanol. Roedd popeth yn cyrraedd ar lestri china hardd y mae Ann ac Alan wedi eu casglu.

Byrddaid o bobol gyda chacennau o'u blaen
Un o’r byrddau llawn yn Annedd Wen

Roedd tua hanner dwsin o fathau gwahanol o fwyd sawrus a brechdanau a mwy wedyn o ddewis o gacennau – yn amrywio o eclairs a chyrn hufen, i gacen foron a meringues a phancws – a’r cyfan yn gorffen gyda phoset lemwn.

Roedd yr achos yn un personol i Ann, sydd wedi colli brawd a chwaer oherwydd canser, ac fe dalodd hithau deyrnged i’r tîm o bobol oedd wedi cyfrannu at lwyddiant y ddau de.