Daw â lles i fywyd llan

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae swyddogion Papur Bro Clonc yn cynnal tri arolwg ar hyn o bryd er mwyn ceisio dod o hyd i ffordd ymlaen.  Ymfalchïa’r swyddogion ym mhob agwedd o lwyddiannau’r papur, ond mae’n ofid bod nifer y darllenwyr yn gostwng yn flynyddol.

Pan sefydlwyd Clonc yn 1982, ysgrifennodd T. Glenfil Jones yr englyn hon:

Hwn rydd ysbonc i’ch cloncian; ac ennyn
Ei gynnwys ymddiddan;
Daw â lles i fywyd llan;
Ein huno yw ei anian.

Ond a ydy hyn dal yn wir am Bapur Bro Clonc heddiw?

Gofynnir i ddarllenwyr ateb deg cwestiwn syml aml ddewis ym mhob arolwg na chymerir ond ychydig funudau i’w hateb.  Gellir dod o hyd iddynt ar wefan Clonc a gwerthfawrogir petai darllenwyr yn eu hateb cyn diwedd mis Ebrill.

Mewn arolwg diweddar gan Cynnal y Cardi ar ran Papurau Bro Ceredigion, cafodd Clonc ymateb da iawn.  Ymhlith y sylwadau, cafwyd hyn “Credaf bod Clonc yn bapur sydd yn cynnwys bach o bopeth” a “Hoffwn i weld rhywbeth tebyg i Cadwyn Cyfrinachau sydd yn Clonc i ymddangos yn fy mhapur bro lleol”.

Felly, beth yw’r rheswm pam fod nifer y darllenwyr yn lleihau?  Mae arferion darllen yn newid.  Mae’r ffordd y derbynnir newyddion yn newid, ond a yw nifer y darllenwyr traddodiadol yn diflannu?

Cyfarfod Blynyddol Clonc 2018
Cyfarfod Blynyddol Clonc 2018

Mae swyddogion Papur Bro Clonc, gyda chymorth gweithwyr Golwg360 yn ceisio addasu.  Gwneir defnydd helaeth o wefannau cymdeithasol, a chyhoeddir straeon cyson ar wefan Clonc360.

Felly sut mae datblygu hyn?  Arolwg Clonc yw’r cyntaf lle gofynnir am farn am y papur bro.  Arolwg am drefniadau Clonc yw’r ail, lle ceisir darganfod barn am gyfrannu, hysbysebu a gwybodaeth am y papur bro.  Yn olaf, ceir arolwg am wefan Clonc360.  Rhowch gynnig arnyn nhw i gyd os gwelwch yn dda.  Dydyn nhw ddim yn anodd o gwbl, a bydd eich barn chi’n gymorth mawr i symud ymlaen.

Cyhoeddir y canfyddiadau ar wefan Clonc360 maes o law, a cheir cyfle i drafod y cyfan yng Nghyfarfod Blynyddol Clonc ar y 14eg Mai.