Dechrau da i Glwb Hoci Llanybydder

gan Carwen Richards
Yn y llun: (Blaen, Ch-Dd) Grace, Elin, Ellie, Sara Wyn, Lowri, Luned, (Ôl, Ch-Dd) Lois, Rhian, Gwyneth, Elen, Sara Jarman, Carwen
Yn y llun: (Blaen, Ch-Dd) Grace, Elin, Ellie, Sara Wyn, Lowri, Luned, (Ôl, Ch-Dd) Lois, Rhian, Gwyneth, Elen, Sara Jarman, Carwen

Ar ddydd Sadwrn y 5ed o Hydref, dechreuodd Clwb Hoci Llanybydder eu tymor yng Nghynghrair 4 Hoci De Cymru.

Gwelwyd gwaith tîm arbennig i sicrhau buddugoliaeth yn eu gêm gyntaf yn y gynghrair yn erbyn 6ed dîm Seintiau Eglwys Newydd.

Roedd Llanybydder ar y blaen 1-0 ar yr hanner, cyn ennill y gêm 6-0 yn y diwedd.

Sgorwyr: Ellie Thomas (2), Rhian Thomas (2), Luned Haf Jones ac Elen Huana Powell

Chwaraewraig y Gêm: Rhian Thomas

Chwaraewraig y Chwaraewyr: Rhian Thomas

Chwaraewraig Dan 18: Ellie Thomas

Chwaraewyr y Capten: Gwyneth Richards a Lois Mai Jones

Diolch yn fawr i Gwyneth am gamu i’r adwy a bodloni i chwarae fel gôl-geidwad funud olaf. Diolch i’r chwaraewyr i gyd am roi 100%, fel arfer. Diolch hefyd i Morgan & Davies am noddi’r gêm hon.

Gêm gartref wythnos nesa yn erbyn 5ed Tîm Met Caerdydd am 10.30. Bydd y Tîm Iau yn dechrau eu tymor nhw ddydd Sadwrn hefyd, gyda gêm oddi cartref am 2.30 yn erbyn Castell Newydd Emlyn yn Aberteifi.