Dewis Dinah Jones i fod ar reithgor gŵyl ffilmiau yn Efrog Newydd

gan Daniel Johnson

 

Dinah hefo ‘wobr llynedd.

Mae dynes leol wedi cael ei hethol i’r Prif Reithgor yn ‘New York Festivals Television and Film Awards’.

Enillodd cwmni Silin wobr aur yn yr ŵyl y llynedd am y rhaglen ddogfen ‘Beti and David: Lost for Words’ a gafodd ei darlledu ar BBC One Wales, a nawr mae sefydlydd y cwmni, Dinah Jones, wedi cael ei hethol i fod yn aelod o Brif Reithgor yr Ŵyl ar gyfer eleni.

Cafodd cwmni Silin ei sefydlu gan Dinah yn 2013 ar ôl iddi dreulio ugain mlynedd yn gweithio fel cynhyrchydd i’r BBC, ac mae wedi cynhyrchu nifer o raglenni dogfen ar gyfer teledu a radio dros y blynyddoedd diwethaf.

Dinah ydy’r unig Gymraes sydd wedi cael ei hethol i’r rheithgor eleni, a bydd yn cadw cwmni i 185 o bobl eraill o bob cwr o’r byd.

Dywedodd Dinah, “Ro’n i’n falch eu bod nhw wedi gofyn i fi fod ar y rheithgor. Mae’n fraint ond hefyd yn gyfrifoldeb. Rwy’n gwybod faint o waith sy’n mynd mewn i gynhyrchu rhaglenni ac o’n i am ‘neud yn siŵr bod pob un yn cael tegwch.

Mae yn golygu gwylio lot o deledu! Fe ddigwyddodd y rownd gynta’ rhwng canol Rhagfyr a chanol Ionawr i ddewis y rhai o’dd am fynd trwyddo i’r rownd derfynol. Wedyn yn ystod y dyddiau dwetha’ bues i’n gwylio 30 o’r rheiny. ‘Nes i ‘fennu’r gwaith dros y penwythnos. Bydd yr enillwyr, fydd yn derbyn medal efydd, arian neu aur, yn cael eu gwobrwyo mewn gala fawreddog ym mis Ebrill.

Mae’n waith diddorol ac yn gyfle i weld rhywfaint o gynnwys gore’r byd a shwt ma’ gynhyrchwyr eraill yn mynd ati i wneud eu rhaglenni. Mae hefyd yn gyfle i weld syniadau newydd ar waith. Mae safon rhai’n eithriadol o uchel ac mae’r pynciau’n eang – o hanes, materion cyfoes, drama, comedi a chwaraeon. Fi wedi wherthin a llefen!”