Dewis Swyddogion Carnifal Llanybydder

gan Sam Leigh Evans

Cafwyd nosweth llawn hwyl ar Nos Wener, y 12fed o Ebrill, wrth i ni gynnal dawns i ddewis swyddogion Carnifal Llanybydder, yng Nghwesty’r Cross Hands.

Llongyfarchiadau i’r ganlynol: Brenhines – Jessica Thomas; Cynorthwywyr – Cadi Davies a Leah Jones; Brenhines Tylwyth Teg – Lois Williams; a’r Tywysog Swynol – Dyfan Davies.

Bydd y carnifal ar 29ain o Fehefin, efo’r gorymdaith yn dechrau am 12:30yp yn y Llew Du, a gorffen yng Nghae Rygbi Llanybydder. Ein thema eleni yw ‘Cartwns’.

Yn y nos, bydd yna adloniant i bawb yng Nghlwb Rygbi Llanybydder, efo disgo am 6yh i’r plant, ac i’r oedolion am 8yh ymlaen hyd hwyr.