Ar y 3ydd o Fedi 1939 cyhoeddodd Neville Chamberlain, Prif Weinidog Gwledydd Prydain ar y pryd, mewn darllediad, bod y wlad yma mewn rhyfel yn erbyn Hitler a’i gyngrheiriau. Dyma oedd dechrau’r Ail Rhyfel Byd.

Rhai o glwyfedigion cyntaf y rhyfel yma oedd aelodau o’r Llynges Fasnach, a oedd yn bwysig iawn i gludo bwyd a nwyddau i mewn i’r wlad, ond nid oedd dianc rhag gweithrediadau milain llongau tanddwr y gelyn yn saethu torpidos atynt a’u lladd. Yn anffodus dyna fu hanes llawer o fechgyn lleol ac o’r ardaloedd cyfagos fel Cwmann, Pencarreg, Llanybydder, Llanbed a Phumsaint.

Gwelir enw’r morwr Evan Henry Thomas, 4 Cwmann ar y Cofgolofn yng Nghwmann.  Bu ef farw yn Ysbyty Sully o ganlyniad i salwch a ddioddefodd tra’n hwylio’r moroedd yn ystod y rhyfel.

Ar y 3ydd o fis Medi eleni – diwrnod a anabyddir hefyd yn “Ddiwrnod y Llynges Fasnach” daeth rhai o aelodau’r Cyngor Bro ac eraill ynghyd ger y Cofgolofn yng Nghwmann i gofio am y rhai a gollwyd ac a glwyfwyd, er nad oeddent yn perthyn i’r Lluoedd Arfog.

Yn dilyn gwasanaeth byr, o dan Faner y Llynges Fasnach, darllenodd Cyng Stan Evans ei gyfieithiad Cymraeg ef o Weddi’r Morwr i gloi’r gweithgareddau.