Dringo polion a mwynhau bywyd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Linesman gyda Western Power yw Gethin Davies, ac ef sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn.  Mae e’n mwynhau bod mas yn yr awyr iach a gweithio mewn lleoliad gwahanol bob dydd.

Gethin yw cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Cwmann eleni ac ymfalchia yn llwyddiant yr aelodau.  Un o’r eiliadau balchaf iddo erioed oedd bod yn rhan o dîm a enillodd gystadleuaeth y meim yn Eisteddfod CFfI Cymru llynedd.  Mae e wrth ei fodd yn chwarae rygbi hefyd ac roedd yn rhan o dîm ieuenctid Llanbed wrth ennill y gynghrair yn 2017.

Ond beth yw’r cyngor gorau a roddwyd iddo?  Beth yw ei hoff gludfwyd a’i ddiod arferol?  Pwy oedd y dylanwad mwyaf arno a beth oedd y gwyliau gorau a gafodd?  Mae’r atebion i gyd yn rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc.  Mynnwch gopi er mwyn dysgu mwy am y gŵr ifanc gweithgar a diddorol hwn.