Dros 1,500 yn tyrru i gyhoeddi Eisteddfod Ceredigion 2020

gan Gwenllian Carr

Daeth ymhell dros 1,500 o bobl ynghyd yn nhref Aberteifi dros y penwythnos i ddathlu dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion i’r ardal o 1-8 Awst y flwyddyn nesaf.

Roedd cannoedd o blant ysgol o bob cwr o’r sir wedi ymuno yn y dathliadau gan baratoi baneri’n arbennig ar gyfer yr achlysur cyn ymuno gyda sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â’r Orsedd er mwyn datgan y bwriad i gynnal yr Eisteddfod yn yr ardal y flwyddyn nesaf.

@ysgol_y_dderi
@ysgol_y_dderi

Roedd strydoedd y dref yn orlawn wrth i drigolion lleol ac ymwelwyr ymuno yn y dathliadau, cyn i’r orymdaith ddychwelyd i gaeau Ysgol Uwchradd Aberteifi ar gyfer y seremoni ffurfiol.

Roedd y seremoni ddydd Sadwrn hefyd yn gyfle i’r Orsedd urddo Archdderwydd newydd wrth i’r Prifardd Myrddin ap Dafydd olynu Geraint Llifon am y cyfnod o 2019-22.  Wrth groesawu dyfodiad yr Eisteddfod i’r sir ac i gyrion tref Tregaron y flwyddyn nesaf, dywedodd, “Diolch ichi am gael fy nerbyn yn Archdderwydd Cymru yma yn Aberteifi. Y flwyddyn nesaf, Tregaron – am wythnos – fydd prifddinas Cymru.

“Mi fydd pob ffordd yn mynd i Dregaron… i Dregaron, Ceredigion. O nabod y Cardis yn eithaf da, mi fentra i y bydd y paratoadau yn hael, yn drylwyr ac yn gynnes. Ein braint a’n pleser ni oll fydd cael bod ar bob ffordd sy’n mynd i Dregaron.”

Roedd y seremoni eleni damaid yn wahanol wrth i Richard a Wyn Jones, o’r band poblogaidd Ail Symudiad berfformio eu cân ddiweddaraf yn croesawu pawb i Geredigion, a hynny yn eu gwisgoedd gorseddol yng Nghylch yr Orsedd.  Yn ddi-os, hwn oedd y tro cyntaf i gitâr drydan gael ei ddefnyddio mewn perfformiad byw yn ystod seremoni’r Cyhoeddi, ac fe gafodd groeso brwd gan y gynulleidfa.

Ac mae’r paratoadau’n hael, yn drylwyr ac yn gynnes, a chynnes hefyd oedd y croeso yn Aberteifi ac ar draws y sir.  Mae’r gwaith paratoadol wedi bod yn mynd rhagddo am bron i flwyddyn eisoes, gyda llu o wirfoddolwyr o bob oed yn rhan allweddol o’r tîm sy’n tynnu popeth ynghyd.  Roedd dydd Sadwrn yn benllanw’r bennod gyntaf gyda chyhoeddi Testunau’r Eisteddfod, a werthodd yn arbennig o dda yn dilyn y seremoni ddydd Sadwrn, ac sydd ar gael ar-lein ac mewn siopau ar hyd a lled Cymru o ddechrau’r wythnos ymlaen.

Ond mae un peth yn glir, gallwn edrych ymlaen at Eisteddfod arbennig yng Ngheredigion y flwyddyn nesaf hefyd, yn dilyn croeso cynnes trigolion Aberteifi a sir Ceredigion dros y Sul.

Bydd llygaid Cymru’n troi’n ôl at y  gogledd a Sir Conwy dros yr wythnosau nesaf ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy a gynhelir ar gyrion Llanrwst o 3-10 Awst, gyda’r Archdderwydd newydd yn arwain ei seremonïau cyntaf ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Llun, Mercher a Gwener.  Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ewch i’r wefan.