Dyfodol Hen Dafarn y Ram

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Tafarn y Ram
Tafarn y Ram

Mae rhai trigolion pentref Cwmann yn gwrthwynebu cynlluniau perchennog Tafarn y Ram i droi defnydd yr hen dafarn i fod yn llety preswyl.

Mae’r Ram yn adeilad rhestredig gradd 2 a chyflwynwyd cais cynllunio gan Frodyr Douglas Cyfyngedig i Gyngor Sir Caerfyrddin ar ddiwedd mis Mawrth. Bwriedir troi’r llawr waelod yn llety preswyl fel y llofft, yn ogystal â ffurfio dau annedd ychwanegol yn yr estyniad cefn.

Mae’r lle wedi bod yn wag ac ar gau fel Tafarn ers degawd a mwy. Daeth gobaith am ail agor y lle yn 2006 pan roddwyd to newydd ar yr adeilad ac yn 2011 pan adeiladwyd estyniad er mwyn ychwanegu darpariaeth llety i’r dafarn. Ond ddaeth dim byd o hynny.

Mae Tafarn y Ram yn adnabyddus iawn drwy’r byd. Yn wir, mae llawer yn gwybod am bentref Cwmann oherwydd y dafarn groesawus ac eiconig a arferid bod yno. Enillodd wobrau niferus dros y blynyddoedd am y cwrw gorau ac am fod y Dafarn Orau mwy nag unwaith. Bu’r Arlywydd Carter yn yfed yma hefyd wrth ymweld â’r ardal.

Ond hen dafarn y porthmyn yw’r Ram yn wreiddiol, a gwelir bachau ar furiau’r dafarn hyd heddiw lle arferid clymu’r ceffylau. Saif yr adeilad gwyngalchog ar y brif ffordd rhwng ardaloedd amaethyddol Ceredigion a Llanymddyfri.

Yn ystod yr wythdegau roedd y Ram yn lle prysur iawn ar y Sul, wrth i bobl Llanbed yfed yno. Roedd Ceredigion wedi pleidleisio dros barhau yn sych ar y Sul tra’r oedd tafarnau ar agor ochr arall y Teifi yn Sir Gaerfyrddin.

Ysgrifennodd George Borrow am y Ram yn 1854 pan oedd ar ei ffordd i Lanymddyfri. Cyfeiriodd at bentref bach yn cynnwys rhyw chwe thŷ a thri o’r rheiny yn dafarnau sef y Ram Inn, Lock and Key a Plasnewydd.

Bu’r Ram yn rhan o ymchwiliad cyffuriau Operation Julie yn y saithdegau hefyd a daeth i enwogrwydd mewn ffilm am yr holl beth a ddarlledwyd ar y teledu.

Ie, tafarn ag hanes iddi, a lle cymdeithasol oedd yn galon y gymuned unwaith.  Pwy sy’n cofio rhai o’r tafarnwyr serchus?  Beth am Dai ac Anne Ram a Wynne a Mary Ram?

Rhai trigolion siomedig.
Rhai trigolion siomedig.

Galwyd cyfarfod o Gyngor Cymuned Pencarreg heno i drafod y cynlluniau ac roedd yr aelodau yn siomedig bod y perchennog yn bwriadu newid defnydd yr hen dafarn.

Nid yw’r dafarn ar werth ac felly, does dim cyfle i unrhyw un arall ei phrynu na’i rhedeg.

Cafwyd sylwadau ar facebook o blaid ac yn erbyn y cynlluniau. O leiaf y byddai hyn yn golygu na fyddai’r adeilad yn wag oedd ymateb un person, a bod diwydiant tafarnau yn dirywio beth bynnag.

Ond roedd teimladau cryf hefyd y dylai’r cyhoedd gael y cyfle i’w phrynu er mwyn ei rhedeg yn llwyddiannus. Mae llawer iawn o dai newydd wedi eu hadeiladu o gwmpas y Ram erbyn hyn a olygir mwy o fasnach i’r lle. Un peth arall a awgrymwyd ar facebook oedd y gallai grŵp o bobl ei phrynu a’i rhedeg fel tafarn gymunedol.

Gellir gweld manylion y cais cynllunio drwy fynd i wefan Cyngor Sir Gâr.  Gofynnir am ymatebion erbyn y 30ain o Ebrill.