Dyn o Lanbed yn arwain cloddio Ystrad Fflur

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae prosiect dan adain archeolegydd o Lanbed yn datgelu rhagor eto am un o brif safleoedd hanesyddol Cymru – Abaty Ystrad Fflur.

Yr Athro David Austin – cyn-bennaeth Archeoleg y Brifysgol – sy’n arwain y gwaith cloddio ar safle’r abaty gan weithio gyda gwirfoddolwyr a milwyr sy’n ceisio dod tros effeithiau rhyfel.

Mae’r ymchwil yr ha’ hwn eisoes wedi dod o hyd i olion y system oedd yn cario dŵr i’r abaty – mae gwaith David Austin eisoes wedi dangos mai Ystrad Fflur oedd un o fynachlogydd mwya’ gwledydd Prydain a chanolbwynt i genedl y Cymry tua 840 o flynyddoedd yn ôl.

“Cyfraniad pwysig”

“Mae’r gwaith yr ha’ hwn yn gwneud cyfraniad pwysig at ein gwybodaeth am y safle,” meddai David Austin, sydd wedi creu ymddiriedolaeth i gynnal y gwaith a throi Ystrad Fflur yn ganolfan i astudio a dathlu hanes Cymru.

Eisoes, mae rhan o glos fferm yr Abaty wedi eu troi yn ystafelloedd aml-bwrpas a swyddfa i’r Ymddiriedolaeth a bydd y gwaith yn dechrau cyn hir ar achub ac addasu’r hen ffermdy hefyd – bellach mae David Austin yn gwybod ei fod yn deillio o gyfnod tua 1670-90.

Roedd wedi ei godi ar ran o’r hen abaty ac mae wal ganoloesol yn rhan ohono – fe fydd yn cael ei adfer i ddangos fel yr oedd tua 1947, cyn i newidiadau anferth daro amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.

Mae swyddog cymunedol hefyd wedi ei phenodi gan Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur ac fe fydd un uchafbwynt yn dod yn Eisteddfod Genedlaethol 2020 – mae David Austin wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg yn ddigon rhugl i roi darlith yno ar y gwaith.