Ffenest siop yn llawn plastig

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Codi ymwybyddiaeth o wastraff plastig oedd y nod heddiw gan ymgyrchwyr Llambed Di Blastig wrth erfyn ar drigolion y dref i fynd â gwerth diwrnod o wastraff plastig i’w harddangos yn un o ffenestri siopau Crown Stores yn y dref.

Dywed yr ymgyrchwyr mai pwrpas y Siop Blaned Blastig heddiw oedd mynd ati i ymgysylltu â thrigolion Llambed a dangos faint o blastig a ddefnyddir ar y cyd mewn un diwrnod gan gynifer o gartrefi a phosib ar draws y dref.

Ym mis Mawrth eleni, enillodd Llambed statws ‘Cymuned Ddi-Blastig’ gan y mudiad ‘Syrffwyr yn erbyn Carthion’ a’r gobaith yw sefydlu tref heb blastig untro ac osgoi’r deunydd sy’n cyrraedd ein traethau a niweidio byd natur.

Mae peidio defnyddio plastig yn heriol yn y byd cyfoes, ond dengys canlyniadau ymchwil ‘Cymunedol Un Egwyddor’ bod 98.9% o fusnesau Llambed yn dymuno cynnig dewisiadau amgen i blastig untro, ac o’r rhain bod 60% ohonynt yn ceisio gwireddu’r newid drwy ddylanwadu ar eu cyflenwyr.

Trefnwyd y digwyddiad hwn heddiw gyda chefnogaeth Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn hen siop addurno J H Williams a’i feibion tu ôl Neuadd y Dref.

Cafwyd cyfraniadau o wastraff plastig gan ryw 60 o gartrefi lleol ac o weld y mynydd o blastig yn ffenestr y siop, codir braw ar ddefnyddwyr o ystyried nad yw hyn i gyd yn pydru ac y gallai hyn fod yn cyrraedd y môr.