Ffyddlon, ffiers, ffabiwlys!

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Rhian Jones yn Uwch achubwr bywyd, hyfforddwr personol ac yn hyfforddwr ffitrwydd cynllun atgyfeirio yn Llanbed, a hi sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ yn rhifyn Hydref Papur Bro Clonc.

Dywed mai’r staff sy’n gweithio gyda hi yw’r peth gorau am ei swydd bresennol gan eu bod wastad yn cael hwyl yn y gwaith.  Ond y peth gwaethaf am ei swydd yw bod rhaid iddi ffeindio egni o rhywle pan fydd hi wedi blino.

Ei chyfrinach i gadw’n gryf yw bod yn hapus a pheidio becso am y pethau bach, a’r cyngor gorau a roddwyd iddi oedd i beidio gwrando ar gossip!

Pan oedd yn blentyn roedd hi eisiau bod yn cowgirl ar ôl tyfu a byw ar ranch yn America.  Ond mae’n canmol yr ardal fach hon erbyn hyn drwy ddweud ei bod yn hoffi’r golygfeydd prydferth a chael bod mor agos at y traethau.  Cwrdd â Harri ei phartner oedd y peth a newidiodd ei bywyd.

Beth sy’n codi ofn arni? Pryd llefodd hi ddiwethaf?  Beth yw barn pobl eraill amdani.  Am beth mae hi’n breuddwydio?  Beth oedd y celwydd diwethaf iddi ddweud?  Gallwch ddarganfod hyn i gyd a mwy drwy ddarllen rhifyn cyfredol Clonc sydd ar werth nawr yn y siopau lleol.