Gweithgareddau Wythnos Carnifal Llanbed

gan Carnifal LLanbed

Mae amryw o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer wythnos Carnifal Llanbed eleni.

Mae wythnos y Carnifal yn dechrau ar nos Lun 29ain o Orffennaf hefo Helfa Drysor Cerdded o amgylch strydoedd Llanbed yn dechrau o’r Llyfrgell am 6yh. Bydd hi’n noswaith hwylus a chymdeithasol.

Ar nos Fercher y 31ain o Orffennaf mae cyfle i fynd yn y car o amgylch rhewlydd pert yr ardal yn yr Helfa Drysor Cerbyd sydd yn dechre am 6yh o Faes Parcio y Rookery. Noswaith hyfryd a siawns i gael pryd o fwyd ar y terfyn.

Nos Iau y 1af o Awst profir eich ymennydd efo Cwis yng Nghlwb Rygbi Llanbed am 8yh. Mae Meryl wedi paratoi cwis da i ni ers blynydde a rwy’n siwr bydd hwn o’r un safon.

Ar Ddydd Sadwrn y 3ydd o Awst bydd y Carnifal yn dechrau o’r Ysgol Uwchradd am 12.30yp efo gorymdaith o gwmpas y dre cyn gwneud ei ffordd i fyny i’r Clwb Rygbi lle bydd amryw o Stondinau yn cynnwys hufen ia, cestyll neidio, peintio wynebau, mabolgampau a Zorbs de Cymru, a digon o fwyd a hwyl a sbri.  Thema’r carnifal eleni yw ‘Diwrnod y Llyfr’ felly, ewch ati i feddwl am wisg ffansi.

O’r 20fed o Orffennaf mae cystadleuaeth i blant ysgol gynradd i chwilio llyfrau yn ffenestri’r dref. Mae hwn yn parhau am bythefnos a mae gwobr yn cael ei rhoi ar ddiwrnod y Carnifal. Mae’r taflenni ar werth yn siop Creative Cove.

Dewch a mwynhewch yr holl weithgareddau efo’ch teuluoedd.