Bydd Gŵyl Fwyd Llanbed yn dathlu ei phen-blwydd yn 22 eleni gyda phwyllgor newydd a delwedd newydd.
Mae’r ŵyl yn hynod bwysig, nid dim ond i’r stondynwyr ond i economi ehangach y dref. Mae’n denu dros 6,500 o bobl i Lanbed pob blwyddyn.
Mae’r Ŵyl Fwyd nawr yng ngofal pwyllgor ar y cyd rhwng Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar ôl i’r trefnwyr blaenorol ddweud eu bod nhw’n methu cynnal yr ŵyl eleni. Mae gan yr Ŵyl enw newydd – Gŵyl Fwyd Llanbed – Lampeter Food Fest, logo newydd a gwefan newydd – www.lampeterevents.co.uk
Mae’r pwyllgor newydd wedi bod yn gweithio yn galen i sicrhau bod trefniadau ar gyfer yr ŵyl yn eu lle ers rhyw fis. Roedd gwneud y trefniadau mewn cyn lleied o amser yn dipyn o her ond mae’r criw wedi bod mewn cyswllt gyda stondynwyr, trefnu’r safle ac adloniant, gwneud gwaith hysbysebu a chodi arian.
Mae’r elfen codi arian o’r gwaith yn hynod o bwysig i sicrhau bod yr ŵyl yn mynd yn ei blaen eleni. Nid yw’r incwm ar gyfer y digwyddiad a godwyd gan y trefnwyr blaenorol ar gael i’r pwyllgor newydd, ond mae Cyngor y Dref wedi cyfrannu £5,000 o bunnoedd ac mae nifer o fusnesau ac unigolion lleol wedi gwneud cyfraniadau hael iawn tuag at y costau. Mae’r pwyllgor hefyd wedi gwneud ceisiadau am grantiau o wahanol ffynonellau. Mae’r gwaith codi arian yn parhau – nid oes digon yn y coffrau i gynnal yr ŵyl eto – felly rydym yn gofyn am gyfraniadau ar ein tudalen Local Giving. Cost cynnal yr ŵyl fydd o leiaf £12,000.
Yn ogystal â stondinau bwyd a diod a’r adloniant arferol, mae arddangosfeydd coginio, gan ddefnyddio cynnyrch o Gymru a chogyddion lleol yn ôl eleni.
Cynhaliwyd yr Ŵyl Fwyd cyntaf yn 1998 ar Stryd Fawr, cyn symud i gampws y Brifysgol fel bod mwy o le ar gael ar gyfer yr ail flwyddyn. Nod y pwyllgor newydd yw adeiladu ar y llwyddiant blaenorol a sicrhau bod yr Ŵyl yn parhau i fod yn un o brif ddigwyddiadau’r dref am flynyddoedd i ddod.