Mae’r trefnwyr yn amcangyfrif i dros 7,000 ddod i Ŵyl Fwyd Llanbed ddydd Sadwrn.
Cynhaliawyd y Ffair Fwyd gyntaf yn 1998 gyda nifer o stondinau ar hyd y Stryd Fawr, ond erbyn yr ail flwyddyn roedd yr ŵyl wedi tyfu fel bod angen cael cartref newydd. Ers 1999, pan agorwyd y Ffair Fwyd gan y Tywysog Siarl mae campws y Brifysgol wedi bod yn gartref i’r ŵyl.
Eleni, gyda’r haul yn disgleirio a dangos y lleoliad godidog ar ei orau, roedd dros 100 o stondinau yn gwerthu popeth o de i jin, caws i gacennau, a tsilis i fêl. Roedd nifer o fusnesau newydd ynghyd â rhai sydd wedi’u hen sefydlu. Roedd y dref yn brysur tan hwyr y nos.
Agorwyd yr ŵyl eleni gan Patrick Gee, sylfaenwr Llanllyr Source. Roedd hyn yn briodol iawn oherwydd 20 mlynedd yn ôl yn yr ŵyl y lansiwyd y cwmni. Yn dilyn yr agoriad swyddogol, cyflwynodd Patrick wobrau i’r stondinau gorau.
- Stondin bwyd gorau: Welsh Homestead Smokery
- Stondin diod gorau: Seidr y Mynydd
- Stondin arall gorau: Lignin Layabouts
- Stondin gorau: Becws, Llanbedr Pont Steffan
Yn ogystal â’r adloniant a’r stondinau arferol, cafwyd arddangosfeydd coginio gyda Gareth Richards, Gareth Johns, llysgennad Slow Food Cymru, Alex Tayor, Zac Pegg ac un o sylfaenwyr yr ŵyl, Hazel Thomas.
Cafodd yr ŵyl ei threfnu eleni ar fyr rybudd gan bwyllgor newydd sbon. Mae’r pwyllgor yn awyddus i ddiolch i’r busnesau ac unigolion lleol a gyfrannodd yn hael i sicrhau bod yr ŵyl yn mynd yn ei blaen, ac i Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru am y nawdd.
Diolch hefyd i bawb ar y grŵp trefnu, y gwirfoddolwyr ar y dydd ac i bawb a ddaeth i gefnogi’r ŵyl eleni.