Gŵyl Fwyd Llanbed yn llwyddiant

gan Rob Phillips

Mae’r trefnwyr yn amcangyfrif i dros 7,000 ddod i Ŵyl Fwyd Llanbed ddydd Sadwrn.

Cynhaliawyd y Ffair Fwyd gyntaf yn 1998 gyda nifer o stondinau ar hyd y Stryd Fawr, ond erbyn yr ail flwyddyn roedd yr ŵyl wedi tyfu fel bod angen cael cartref newydd. Ers 1999, pan agorwyd y Ffair Fwyd gan y Tywysog Siarl mae campws y Brifysgol wedi bod yn gartref i’r ŵyl.

Eleni, gyda’r haul yn disgleirio a dangos y lleoliad godidog ar ei orau, roedd dros 100 o stondinau yn gwerthu popeth o de i jin, caws i gacennau, a tsilis i fêl. Roedd nifer o fusnesau newydd ynghyd â rhai sydd wedi’u hen sefydlu. Roedd y dref yn brysur tan hwyr y nos.

Agorwyd yr ŵyl eleni gan Patrick Gee, sylfaenwr Llanllyr Source. Roedd hyn yn briodol iawn oherwydd 20 mlynedd yn ôl yn yr ŵyl y lansiwyd y cwmni. Yn dilyn yr agoriad swyddogol, cyflwynodd Patrick wobrau i’r stondinau gorau.

Yn ogystal â’r adloniant a’r stondinau arferol, cafwyd arddangosfeydd coginio gyda Gareth Richards, Gareth Johns, llysgennad Slow Food Cymru, Alex Tayor, Zac Pegg ac un o sylfaenwyr yr ŵyl, Hazel Thomas.

Cafodd yr ŵyl ei threfnu eleni ar fyr rybudd gan bwyllgor newydd sbon. Mae’r pwyllgor yn awyddus i ddiolch i’r busnesau ac unigolion lleol a gyfrannodd yn hael i sicrhau bod yr ŵyl yn mynd yn ei blaen, ac i Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru am y nawdd.

Diolch hefyd i bawb ar y grŵp trefnu, y gwirfoddolwyr ar y dydd ac i bawb a ddaeth i gefnogi’r ŵyl eleni.