Haf Clwb Sarn Helen

gan Richard Marks
Sion Price yn ennill ras Felin-fach 6

Dros fisoedd yr haf eleni bu aelodau Clwb Sarn Helen yn cystadlu neu gymryd rhan mewn dros 20 o rasys neu ddigwyddiadau amrywiol o Wlad yr Haf i Wlad Yr Ia, rhai ar feic a’r rhan fwyaf mewn esgidiau rhedeg.

Os mai buddugwyr sy’n haeddu’r prif sylw gwell dechrau gyda buddugoliaeth Sîon Price am yr ail flwyddyn yn olynol yn ei ras leol, sef Ras Ysgol Gynradd Felinfach ar y 28ain o Fehefin, digwyddiad a drefnwyd yn flynyddol gan y Clwb ers yr 80au. Ras heol sydd ychydig yn brin o 6 milltir ac yn mynd a’r rhedwyr i Dalsarn ac Abermeurig ac yn ôl i Felin-fach yw hon. Ar un o nosweithiau poethaf yr haf, d’oedd dim rhaid i Sîon wella ar ei amser llynedd wrth iddo orffen mewn 33 munud ac 19 eiliad o flaen ei gyd-aelodau Eirwyn Roberts (ail mewn 36.21) a Glyn Price (4ydd mewn 37.19 ac enillydd dosbarth y dynion dros 50) gyda Llŷr ab Einon o Glwb Aberystwyth yn eu gwahanu (3ydd mewn 36.35). Yr un mor deilwng o sylw oedd buddugoliaeth Caryl Wyn Davies o Glwb Sarn Helen, y fenyw gyntaf i orffen mewn record bersonol  (40.28) am y cwrs. 

Yn ogystal â’r wobr am y tîm gorau, aeth gwobrau eraill i aelodau’r Clwb    Dan Hooper (37.58) yn 4ydd ddyn dros 40, Meic Davies (40.47) yn ail ddyn dros 50, Dee Jolly (45.16) yn ail fenyw yn y dosbarth dan 35, Eleri Rivers (45.18) yn fenyw gyntaf dros 45 a Delyth Crimes (47.38) yn ail fenyw dros 45.

Cafwyd llwyddiant hefyd yn y ras ieuenctid 3000 metr – Rhys Williams (11.06) a Jack Caulkett y ddau fachgen cyntaf a Violet (14.04) a Maddie Caulkett y ddwy ferch gyntaf –  ac yn y ras ieuenctid 1500 metr lle daeth Non Crimes yn gyntaf o’r merched, ac yn y ras ieuenctid 800 metr Eva Davies oedd y ferch gyntaf.

Wedi Felin-fach aeth Caryl Wyn Davies ymlaen drannoeth i redeg ras heol 10 cilometr y Sospan yn Llanelli yng ngwres y bore (46 munud a 12 eiliad) gyda Rebecca Doswell (65.05) yn ei chefnogi, ac yna ar y 27ain o Orffennaf fe ddaeth Caryl yn ail yn ras heol 5 milltir Dolgellau.

Hwyrach mai ras heol hanner marathon Abertawe ar y 23ain o Fehefin oedd un fwyaf yr haf o ran nifer y rhedwyr ac yr oedd 8 o aelodau’r Clwb yn eu plith. Gosodwyd record bersonol am y pellter gan Delyth Crimes (1 awr 46 munud a 48 eiliad) a hefyd Matthew Walker (1.49.48). Cafodd Irfon Thomas (1.31.11) a Steffan Thomas (1.39.55) ras dda yn ogystal ag Enfys Needham Jones (1.56.05), Nicola Wiliams (1.59.54), Elisha Leigh Jones (2.06.17) a Siân Bela Jenkins (2.13.11). 

Yr oedd nifer go dda’n rhedeg ras heol 10 cilometr Porthcawl ar y 7fed o  Fehefin hefyd (3,375) a dau o aelodau’r Clwb yn eu plith – Nigel Davies (41 munud a 45 eiliad) a’i wraig Lorraine (93.13).

Er mai ychydig llai na 300 oedd yn cystadlu yn ras heol 10 cilometr Rhydaman ar y 14eg o Fehefin, hon oedd pencampwriaeth Cymru dros y pellter hwn eleni. Llwyddodd Carwyn Davies (40.21) i ddod yn 23ain gyda Ken Caulkett (40.22) ar ei ysgwydd yn 24ain.

Y mae ras heol 5 milltir Cwmann wedi dod yn un o rasys blynyddol y Clwb erbyn hyn ac fe’i cynhaliwyd am yr 8fed tro ar nos Wener y 5ed o Fehefin eleni. Os mai ychydig sy’n dod o bell i hon hyd yn hyn, cafodd gefnogaeth gref gan aelodau’r Clwb eleni eto. Ken Caulkett (30.30) oedd y cyntaf i ddringo rhiw Cwmann a chroesi’r llinell gyda’r bytholwyrdd Glyn Price (30.57) yn dilyn. Ac yntau’n 16 oed gwnaeth Daniel Jones (33.16) yn arbennig i ddod yn drydydd yn nosbarth y dynion dan 40.

Cafwyd ymdrechion da hefyd gan Carwyn Davies (32.01) a Mark Rivers (32.07) i ddod yn ail a thrydydd o’r dynion dros 40, a chan Eleri Rivers (37.59), Delyth Crimes (39.33) ac Enfys Needham Jones (42.00)i ddod yn gyntaf, ail a thrydydd o’r menywod dros 45. Braf hefyd oedd gweld Joanna Rosiak (42.07) fel y drydedd fenyw dros 35 ac Elisha Leigh Jones (45.03) fel y drydedd fenyw dan 35 yn derbyn gwobrau.

Rhedwyr Sarn Helen yn Llandudoch

Eleni eto yng Ngorffennaf ac Awst fe drefnodd Clwb Aberteifi’r gyfres arferol a phoblogaidd o dair ras 5 cilometr yn Llandudoch dros gwrs sy’n croesi tywod meddal traeth Poppit ddwywaith. Aeth nifer o redwyr y clwb yno a thrwy berfformio’n gyson ar y tri achlysur llwyddodd Mark ac Eleri Rivers i ennill gwobrau  – tlws y dynion dros 40 i’r naill a thlws y menywod dros 45 i’r llall. Dafydd Lloyd oedd y cyflymaf o redwyr y Clwb wrth iddo ddod yn 7fed mewn 18 munud a 30 eiliad yn yr ail ras ar y 6ed o Awst. Cafwyd tair ymdrech dda gan Irfon Thomas a Steffan Thomas hefyd.

Rhai o uchafbwyntiau lleol eraill y misoedd diwethaf oedd ras 5 cilometr Tenovus yn Llanbed (21ain o Orffennaf) lle dangosodd Mark Rivers (18.37) George Eadon (18.47) ac Irfon Thomas  (18.59) tipyn o gyflymdra wrth rasio’i gilydd y tu ôl i’r enillydd David Jones (16.45) o Glwb Caerfyrddin, a Ras y Dewin (18fed o Awst) yng Nghwrtycadno lle bu Mark Rivers yn fuddugol wrth ddringo Mynydd Mallaen a dangos ei hoffter o afonydd wrth ddychwelyd trwy Afon Cothi gyda Dee Jolly (enillydd ras y menywod) a Glyn Price ar ei drywydd.

Da oedd gweld Carwyn Thomas, un o redwyr mwyaf talentog y Clwb, yn gwneud ymddangosiad cymharol brin yn ras heol 10 cilometr San Clêr ar y 18fed o Awst ynghyd a Tomos Morgans, Eric a Carol Rees.

Rhoddodd y Clwb gefnogaeth hefyd i ras heol 5 milltir Cilycwm ar y 23ain o Awst (lle daeth Irfon Thomas yn 4ydd) cyn dod a’r mis i ben yn Ras Beca ger Ffynnon Groes ar lethrau’r Preselau. Er nad oedd yna aelod o’r Clwb ymhlith y tri cyntaf yn Ras Beca eleni daeth Glyn Price (43.20) yn ail yn nosbarth y dynion dros 50 gan orffen ychydig o flaen Carwyn Thomas (47.44) a Tomos Morgans (49.33). Gwnaeth Nia Venville (62.43) yn arbennig i ddod yn ail yn nosbarth y menywod dan 35 gyda Huw Price (64.56) yn cwblhau ymdrechion y clwb yn y ras fynydd unigryw hon oedd yn 42 oed eleni.

Er bod anaf i’w droed wedi gorfodi Simon Hall i roi ei esgidiau rhedeg o’r neilltu dros yr haf, bu’n cystadlu’n llwyddiannus ar ei feic mynydd yn Llanfair Ym Muallt, Llanymddyfri a Minehead yng nghyfres marathon beic mynydd Scott.

Bu aelodau eraill o’r Clwb yn gwneud tipyn o feicio o fath gwahanol wrth gadw ati o doriad y wawr hyd at y machlud er mwyn codi arian at ymchwil clefyd Parkinson. Gan ddilyn cwrs rhwng Llanbed a Phontrhydfendigaid nifer o weithiau llwyddodd saith ohonynt i gwblhau tua 250 o filltiroedd.  

Pamela Carter yng Ngwlad yr Ia

Aeth dau o aelodau’r Clwb dros y bont i gymryd rhan mewn cystadleuaeth redeg anarferol drwy’r meysydd ar y 27ain a’r 28ain o Fehefin yn Swydd Dorset – y Cider Frolic. Wedi rhedeg am 12 awr yr oedd Helen Willoughby wedi llwyddo i redeg 52.4 o filltiroedd tra bod Emma Gray wedi cwblhaul 42 o filltiroedd. 

Fe soniwyd am Wlad yr Ia    cynrychiolydd y Clwb yno oedd Pamela Carter wrth iddi hi gwblhau hanner marathon ger Reykjavik ar yr 20fed o Fehefin mewn 2 awr 5 munud a 23 eiliad.