Hamdden Llambed yn eich helpu i waredu effaith y twrci!

gan Arwel Jones

Gyda’r twrci, ‘brandy’ a mins peis nawr ond atgof ac addundedau blwyddyn newydd pawb yn ei anterth dewch i ymuno â ni yng Nghanolfan Hamdden Llambed i gadw’n heini?

Mae gennym amryw o ddosbarthiadau ffitrwydd ar gael, ystafell ffitrwydd, pŵll nofio ynghyd â neuadd chwaraeon a chae aml bwrpas.

Mae ein dosbarthiadau yn rai arbennig gyda rhywbeth at ddant pawb. Gellir mynychu sesiynnau egniol fel cylchredau, troelli, Cardi-o Xfit neu ‘boxercise’neu beth am fynychu un or rhai sy’n gweithio’r cyhyrau ychydig yn fwy fel Kettlefit neu ‘Ab Blast’.

Os ydych awydd rhywbeth ychydig yn fwy hamddenol dewch i’r sesiynnau aerobeg dŵr neu ffitrwydd ysgafn. Os taw dosbarth gyda naws parti rydych awydd yna ‘Boogie Bounce’ yw’r dosbarth i chi – cerddoriaeth fodern gyda symudiadau egniol ar drampet! (Gweler ein rhaglen ddosbarthiadau yn y llun ataodol.)

Mae gan ein ystafell ffitrwydd gyfarpar codi pwysau ynghyd â pheiriannau rhedeg, rhwyfo a beicio a gyda’r plant mor ifanc ag 11 yn cael mynychu nawr does dim esgus gan neb i beidio cadw’n heini. Gallwch drefnnu sesiwn ymrwymo gyda’r staff fydd yn eich galluogi i ddefnyddio’r cyfleuster yn ddyddiol.

Os taw dŵr a nofio sydd yn apelio atoch yna pŵll nofio Llambed yw’r lle i chi. Mae’r pŵll ar agor yn ddyddiol gydag amryw o sesiynnau fydd at ddant pawb o’r sesiynnau nofio lôn egniol i’r sesisynnau nofio teuluol a sesiynnau cyhoeddus.

Neu beth am wersi nofio? Dyw hi byth rhy hwyr i ddysgu yn ein gwersi oedolion ar nos Fercher? Rydym hefyd yn darparu gwersi nofio i blant yn ystod yr wythnos – am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r pŵll ar 01570422959.

I gyd fynd gyda’r ddarpariaeth uchod rydym yn cynnig pecynnau aelodaeth trawiadol iawn fydd yn eich galluogi i fynychu’r ystafell ffitrwydd a’r pŵll nofio mor aml ac y dymunir ynghyd â mynychu unrhyw ddosbarth ffitrwydd am £25.95 y mis. Cynnig arbennig o feddwl bod un sesiwn yn costio rhwng £4 a £6!

Felly does dim esgus dros beidio cadw’n heini yn 2019 – mae’r ddarpariaeth a’r cyfleon yma i chi felly ewch amdani a gwnewch 2019 yn flwyddyn i’w chofio. Os am ragor o wybodaeth ar unrhywbeth uchod yna galwch draw neu cysylltwch â ni ar 01570422552 ble fydd y staff yn fwy na hapus i’ch helpu.