Heiddwen Tomos ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Pen ac ysgwyddau Heiddwen Tomos a hithau wth ddarllenfa yn darllen o'r llyfr
Heiddwen Tomos yn darllen o’i nofel Esgyrn adeg y lawnsio yn Gorsgoch

Mae’r nofelydd a’r dramodydd Heiddwen Tomos o Bencarreg wedi llwyddo i gyrraedd un o’r rhestrau byrion ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019.

Mae hynny’n golygu bod ei nofel Esgyrn yn un o’r tair sy’n cystadlu am y wobr nofelau ac yn un o naw sy’n cystadlul am y prif deitl.

Dyma’r nofel a ddaeth o fewn dim i ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y llynedd. Dyw’r enillydd ddim ar y rhestr.

Roedd dwy o feirniaid y gystadleuaeth wedi gwirioni ar Esgyrn ac wedi ei gosod ar y blaen, cyn cael eu perswadio gan y trydydd beirniad nad oedd digon o “linyn storïol” ynddi.

Esgyrn

Mae Esgyrn wedi ei gosod mewn cymuned wledig, ac yn canolbwyntio ar berthynas tad-cu a’i ddau ŵyr ifanc, gydag un ohonyn nhw mewn cadair olwyn.

Mewn sgwrs â golwg360 ddechrau’r flwyddyn, dywedodd Heiddwen Tomos ei bod hi’n “nofel eithaf cyfoes,” sydd hefyd yn trafod themâu mwy traddodiadol fel perthyn a threftadaeth, mewnfudwyr a chariad.

Mae hefyd yn nofel “i’w mwynhau,” meddai wedyn, wrth i sawl cymeriad gwledig ddwyn hiwmor i’r stori.

Llyfr y Flwyddyn 2019

Mae’r gwobrau yn cael eu dyfarnu i weithiau creadigol o Gymru sydd wedi eu cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Byd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar Fehefin 20, gyda gwobr o £1,000 ar gael i enillydd pob categori, yn ogystal â £3,000 yn ychwanegol i’r prif enillwyr yn y ddwy iaith.

Tri o Geredigion yw’r beirniaid ar gyfer y gwobrau Cymraeg eleni, sef y darlledwr, Dylan Ebenezer, yr academydd, Cathryn Charnell-White, a’r bardd, Idris Reynolds.

Mae modd pleidleisio ar gyfer Gwobr Barn y Bobol (llyfrau Cymraeg), yn ogystal â gweld y rhestrau byrion yn llawn, ar wefan golwg360.