Huw Alltgoch yn ennill un o gystadlaethau llenyddol y Genedlaethol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llongyfarchiadau i Huw Evans o Gwrtnewydd am ennill cystadleuaeth am ei ddawn ysgrifennu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni eto.

Yng Nghyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Sir Conwy a gyhoeddwyd ddiwedd yr wythnos, cyhoeddir Llythyr Achwyn buddugol Huw ynghyd â beirniadaeth Rocet Arwel Jones am yr unarddeg a gyflwynodd eu llythyron i’r gystadleuaeth.

Mae Huw yn dod i’r brig mewn cystadleuaeth lenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol, ac ef eleni a enillodd y gystadleuaeth am ysgrifennu llythyr achwyn.

Mae’n werth darllen y llythyr.  O dan ffugenw Gwyddno, ysgrifennodd Huw lythyr achwyn am gau ysgolion gwledig.

Dywed y beirniad “Mae hwn yn enghraifft o lythyr wedi ei gyfansoddi yn ofalus, ei ddadleuon yn cael eu cyflwyno’n drefnus a’r cyfan yn lân a darllenadwy.”

Yn ei lythyr i Gyngor Sir Ceredigion, mae Huw yn ysgrifennu i gwyno am gau ysgolion cynradd Gorslwyd, Llangarrog a Rhydymaen.  Mae ganddo ddadleuon craff a chall ac wrth ddarllen y llythyr gallwn ddyfalu mai cyfeirio at gau ysgolion lleol yn ddiweddar a wna, a’i fod yn cyfeirio at fro ei febyd.

Ysgrifenna am CFfI Llangarrog. “Dros y deugain mlynedd y bûm yn ymwneud â’r clwb hwn, cyfarfu am 90% o’i weithgareddau yn ysgol Llangarrog.”  A sonia am yr effaith o gau’r ysgol ar y gymuned ehangach.

Mae ganddo ddadl effeithiol ynglyn â chost addysg yn ôl cyfartaledd y pen o’r boblogaeth hefyd.  Mae’n dadlau os mai dyma’r ffordd o gostio addysg, pam nad yw’r cyngor yn costio tarmacio hewlydd y wlad yn yr un ffordd?

Mynnwch gopi o’r cyfansoddiadau pan y cewch gyfle, er mwyn gwerthfawrogi doniau llenor lleol.