Hwyl a Heriau i Glwb Bro’r Dderi

gan Daniel Johnson

Mae CFfI Bro’r Dderi yn ymwybodol o’r sialens o gael canlyniad da yng nghystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant Ceredigion, gan ei fod yn glwb mor fach.

Roedd eu perfformiad o ‘Brwydr y Bobol Bach’, a ysgrifennwyd gan Guto Gwilym ac sy’n dilyn hynt a helynt criw o gorachod, yn cynnwys deg aelod.

Dywedodd Ysgrifennydd y clwb, Lowri Pugh-Davies: “Dim ond deg aelod ar y mwyaf oedd ar lwyfan da ni, so ma fe’n wir sialens achos ry’n ni’n llai na rhes o’r gynulleidfa rili!”

Er nad oedd y cast yn fawr, roedd Lowri yn falch bod y clwb wedi dod at ei gilydd i greu’r Hanner Awr o Adloniant eleni. “O ran clwb mor fach, ma fe’n ddigwyddiad lle mae pawb yn cael dod at ei gilydd a chymryd rhan, a ma fe jyst yn brofiad cael bod ar lwyfan a chynnal sioeau i’r cyhoedd – ma fe’n brofiad i bawb. Ma fe’n rhoi hunan hyder i lot o’n haelodau ni.”

Cychwynnodd ymarferion y clwb yn fuan ar ôl y Nadolig, ac er nad yw’n hawdd bob amser cael pawb i’r ymarferion, yn enwedig yn ystod cyfnod y gemau rygbi rhyngwladol, mae’r ymarferion wedi mynd yn hwylus a phawb wedi cael sbort – a dyna be sy’n bwysig i Lowri.

Roedd yr holl docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer y gystadleuaeth yn Theatr Felinfach, ond cadwch lygad mas am gyfle arall i weld Bro’r Dderi yn perfformio’r cynhyrchiad mewn neuaddau lleol. “Ni’n gobeithio cynnal cyngerdd, a ni di cal gwahoddiad gan ambell i glwb i fynd atyn nhw, so fyddwn ni’n siŵr o’i neud e eto.”