Iaith addysgu cyfnod sylfaen Ysgol Bro Pedr yn newid i’r Gymraeg

gan Siwan Richards
Disgyblion Ysgol Bro Pedr ym Mharêd Gŵyl Dewi.
Disgyblion Ysgol Bro Pedr ym Mharêd Gŵyl Dewi.

Cymraeg bydd cyfrwng addysgu yng nghyfnod sylfaen Ysgol Bro Pedr o fis Medi 2019 ymlaen.

Mae’r datblygiad yn dilyn cymeradwyaeth o’r cynllun gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion.

Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig i newid y cyfrwng iaith mewn cyfnod o hysbysiad statudol. Cynhaliwyd y cyfnod rhwng 4 Chwefror a 3 Mawrth 2019.

Mae’r newid cyfrwng yn cefnogi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Ceredigion 2017 – 2020 trwy sicrhau bod mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Mae’n braf ein bod wedi gallu gwneud y penderfyniad yma ar ôl derbyn dim gwrthwynebiad i’r cynnig. Mae hyn yn gam positif a phwysig yn hybu addysg a defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion.”

Cefnoga’r newid cyfrwng Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 trwy gyfrannu at hyrwyddo a gwarchod diwylliant a threftadaeth Cymru a’r iaith Gymraeg.

Mae’r cynnig hefyd yn cefnogi nod y cyngor drwy ymrwymo i gefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i weld miliwn o bobl yn defnyddio’r Gymraeg erbyn 2050.