Knockout Llanybydder

gan Sam Leigh Evans
Hwyl Knockout Llanybydder. Llun: Meinir Williams
Hwyl Knockout Llanybydder. Llun: Meinir Williams

Ar y 26ain o Fai, cynhaliodd Pwyllgor Pentref Llanybydder ein diwrnod ‘It’s a Knockout’.

Er y tywydd, cawsom ddigwyddiad llond sport, ac fe wnaeth y timoedd i gyd a gymerodd ran ymdrech ffantastig.

Eleni, roedden yn codi arian tuag at Glwb Pêl Droed y Juniors, Yr Hen Ysgol, a Phwyllgor Pentref Llanybydder.

Y tîm buddugol. Llun: Karen Thomas
Y tîm buddugol. Llun: Karen Thomas

Diolch i bawb wnaeth gymeryd rhan, cefnogi, ac helpu, er mwyn gwneud y diwrnod yn llwyddiannus.  Braf gweld digwyddiad fel hyn yn y pentref yn tynnu pobl at ei gilydd.

Hoffem hefyd longyfarch y tîm buddugol, ‘D.T.S Stallions’, sef Steven Lovell, Lewis Davies, Arwel Thomas, ac Alex Jones.