Lansio Côr Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

gan Gwenllian Carr

Gyda llai na deg mis i fynd cyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, mae manylion Côr yr Eisteddfod wedi’u cyhoeddi, a gellir cofrestru i fod yn aelod o’r côr dros yr wythnosau nesaf.

Fflur Dafydd, Griff Lynch a Lewys Wyn sy’n gyfrifol am Lloergan, prosiect gwreiddiol newydd sy’n cyfuno’r celfyddydau a gwyddoniaeth mewn ffordd ddyfeisgar a newydd, a bydd cyfle i glywed mwy am y prosiect mewn sesiwn ‘Dewch i Ganu’ yn Ysgol Uwchradd Aberaeron am 19:30, nos Lun 18 Tachwedd.

Mae’r prosiect yn binacl partneriaeth pum mlynedd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd, Prifysgolion Cymru a’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol, fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant y gymdeithas.

Pa mor wahanol yw’r byd yn nhywyllwch y nos? A phwy yw adar y nos, y rheini sydd â chysylltiad â’r nos yn ardal yr Eisteddfod? Abaty hynod Ystrad Fflur, safle sy’n mynd â ni’n ôl i ddechrau hunaniaeth ein cenedl, yw cefnlen y cyfanwaith, a chawn grwydro’r ardal yn y nos gan arsylwi’r lloer, y sêr a rhyfeddodau’r gofod yn ystod y sioe.

Gyda gwreiddiau’r stori’n ddwfn yng nghefn gwlad Ceredigion, mae’r Eisteddfod yn awyddus i ddenu pobl o bob rhan o’r sir i fod yn rhan o’r cyfanwaith cerddorol a geiriol amlgyfrwng hwn, wedi’i ysbrydoli gan seryddiaeth a’r ardal leol.

Crëwyd y stori a’r sgript gan Fflur Dafydd, gyda’r caneuon gan Griff Lynch a Lewys Wyn. Trefnir y gerddoriaeth gan Rhys Taylor, ac mae Hefin Jones yn ddylunydd cyfranogi creadigol ar y prosiect.

Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda Fflur, Griff, Lewys, Rhys a Hefin ar brosiect Lloergan. Mae’r gwaith ymchwil sydd eisoes wedi’i wneud yn swnio’n hynod o ddiddorol, ac mae gallu cyfuno’r celfyddydau gyda gwyddoniaeth yn y fath fodd yn gyffrous tu hwnt.

“Rydym ni’n gwybod bod nifer fawr o bobl yn awyddus i fod yn rhan o brosiect Côr yr Eisteddfod eleni fel pob blwyddyn arall, felly gobeithio y bydd nifer fawr o drigolion yr ardal yn cofrestru ac yn ymuno â ni ar 18 Tachwedd. Bydd hyn yn gyfle i ni ddod i adnabod ein gilydd, ac i gael blas ar y prosiect a chlywed ambell un o’r caneuon.

“‘Does dim rhaid bod yn aelod o gôr i ymuno – mae croeso mawr i unrhyw un sy’n mwynhau canu. Mae lle i 250 yn y côr eleni, felly rydym yn gofyn i bobl gofrestru ar-lein ymlaen llaw os oes modd, neu ar noson y lansiad yn Aberaeron.”

Ewch i https://eisteddfod.cymru/eisteddfod-2020/cefnogi/cor-eisteddfod i gofrestru, neu ffoniwch y swyddfa ar 0845 4090 400.

Mae cyfle hefyd i gofrestru i ymuno gyda Chôr Cymanfa Ganu’r Eisteddfod, a bydd ymarferion yn cychwyn ym mis Ionawr. Gellir ymuno gyda’r ddau gôr neu ddewis dim ond un ar y ffurflen ar wefan yr Eisteddfod.

Bydd premiere byd Lloergan ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, a gynhelir yn Nhregaron o 1-8 Awst y flwyddyn nesaf.