Lansio Cyfrol ‘Myfyrdodau Pysgotwr’ yn Llanllwni

gan Owain Davies

Nos Fawrth y 12fed o Chwefror, 2019 cafwyd noson i’w chofio yn Ystafell yr Eglwys, Llanllwni pan lansiwyd cyfrol o farddoniaeth y diweddar Hybarch J. Sam Jones: ‘Myfyrdodau Pysgotwr’. Daeth tyrfa gref ynghyd, roedd y neuadd fach yn orlawn gyda chadeiriau ym mhob twll a chornel i glywed am hanes y cyn ficer hoffus ac i glywed darnau o’i waith ar lafar ac ar gân.

Llywyddwyd y noson gan y Parchedig Ganon Eileen Davies, cyn warden Eglwys Llanllwni yn ystod cyfnod Sam Jones yn Ficer y Plwyf ac un a gafodd ‘Ficer’, fel y galwai hi fel nifer eraill ef, gryn ddylanwad arni. Nododd ei bod yn addas iawn i’r noson gael ei chynal yn y lleoliad hwn am mai Sam Jones oedd y ficer pan gafodd ei chodi a’i chysegru.

Cafwyd anerchiadau gan ddwy ferch y diweddar Hybarch Sam Jones; talwyd pleidlais o ddiolch ar ran y teulu gan Mary Sinclair a chyflwynodd Ann Barlow ychydig o hanes bywyd ei thad mewn modd hynod o ddifyr.

Soniodd am ei fagwraeth ar aelwyd ddiwylliedig Gwarcoed, Esgairdawe ac iddo droi at yr Eglwys tra’n ‘lojo’ yn Llandeilo pan yn ddisgybl yn yr ysgol ramadeg yno. Mynychodd Goleg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan cyn mynd ymlaen i Goleg Mihangel Sant, Caerdydd, oedd yn dipyn o newid i fab fferm o Esgairdawe!

Aelodau CFfI Llanllwni
Aelodau CFfI Llanllwni

Wedi ei ordeinio aeth yn gurad i Landysul ac wedyn i Landybie lle bu’n weithgar iawn gyda phobl ifanc yn enwedig y Ffermwyr Ieuanc a’r Urdd. A’r daith gyda’r Urdd i Fanordeilo y cyfarfu â Nancy, y ferch gerddorol oedd i ddod yn wraig iddo ymhen peth amser.

Ym 1949 fe’i sefydlwyd yn Ficer Plwyf Llanllwni a phriododd a Nancy ym 1950. Bu’n Ficer Llanllwni am 37 mlynedd (tair mlynedd yn brin o record Joshua Davies, record y byddai wedi hoffi ei efelychu), bu hefyd yn Ficer Capel Dewi ger llaw yn ystod nifer helaeth y blynyddoedd hynny. Fe’i dyrchafwyd yn Ddeon Bro ac yn ystod blynyddoedd olaf ei weinidogaeth yn Archddiacon ond yn bennaf oll ef oedd Ficer y Plwyf.

Cafodd y gynulleidfa gryn flas wrth glywed Ann yn son am i’w thad dywys 13 o blant ar yr un pryd yn ei Austin 7 i ymarfer Gwyl Fawr Calan Hen pan oedd yn rhaid i’r Ysgol Sul dop, a gyfarfu yn yr Ysgol, a’r Ysgol Sul waelod, a gyfarfu yn yr Eglwys, ddod at ei gilydd!

Er y prysureb roedd gan y ficer lu o ddiddordebau o arddio a magu ffowls i drwsio’r car, ac wrth gwrs pysgota a barddoni. Cafodd fwy o amser wedi ymddeol i Lanbed ym 1986 i ganolbwyntio ar y diddordebau hyn, yn enwedig barddoni wrth iddo fynychu dosabrthiadau cynganeddu y Prifardd Idris Reynolds.

Plant yr Ysgol Sul
Plant yr Ysgol Sul

Addas felly oedd i’r Prifardd Idris Reynolds, a fu’n gymorth wrth olygu’r gyfrol roi anerchiad byr. Soniodd am Sam Jones yn mynychu’r dosbarthiadau yn Llanbed ac am y ffaith bod modd dod i adnabod y bardd rhwng cloriau’r gyfrol hon. Yn ôl y Prifardd Idris Reynolds mae’r gyfrol hon yn ddilyniant teilwng i’r gyfrol a gyhoeddwyd o waith tad Sam Jones.

Gwerthir y llyfr er budd elusen Tir Dewi, elusen a sefydlwyd gan y Canon Eileen Davies i estyn clust i wrando ar ffermwyr sydd angen cymorth. Cyflwynodd cadeirydd a swyddog gweithredu’r elusen honno ychydig o hanes yr elusen a sut y bydd yr arian yn cael ei wario.

Cyflwynwyd eitemau cerddorol hefyd yn ystod y noson. Canodd plant Ysgol Sul Eglwys Llanllwni gyfieithiad gan ei cyn ficer o emyn.

Naws mwy hwyliog ac ysgafn oedd i berfformiad Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni o eiriau a gyfansoddodd y Ficer ar gyfer hanner awr o adloniant llwyddiannus y clwb ym 1985 yn sôn am ffermwyr yn mynd i’r mart ar prisiau’n wael oherwydd y cwota llaeth, gobeithio yn wir nad yw’r geiriau’n addas o ystyried yr heriau gwleidyddol presennol!

Gwen
Gwen

Mae Gwen, wyres y Ficer a Mrs. Jones yn byw yn yr Alban ond mae hi a’u phlant yn hollol rhugl yn y Gymraeg. Mae wedi etifeddu talent gerddorol ei mam-gu ac yn delynores hynod ddawnus. Mi swynodd y gynulleidfa wrth ganu, gyda thinc werinol hyfryd, dau o weithiau ei thad-cu i gyfeiliant ei thelyn.

Wrth gloi nododd y Canon Eileen Davies na allai neb adael heb dderbyn o’r lluniaeth a baratowyd gan aelodau Undeb y Mamau (y gangen a sefydlodd Mrs. Jones yn Llanllwni), rhieni’r Ysgol Sul ac aelodau’r C.Ff.I. oherwydd na adawodd neb cartref Ficer a Mrs Jones heb groeso, te a phrofi o’r sgonau blasus! Gwerthwyd sawl copi o’r gyfrol ar ddiwedd y noson ond mae digon o gopiau ar ôl i’w gwerthu. Cysyllter gyda’r Canon Eileen Davies, Gwndwn, Llanllwni (01559 384 248) os oes diddordeb.

Do, bu’n noson hynod o lwyddiannus nid yn unig i lansio’r gyfrol a chlywed barddoniaeth bardd gwlad medrus, ond bu’n deyrged deilwng i ŵr a gwraig bu mor gefnogol i gymuned wledig yn Nyffryn Teifi. Oedd roedd y diweddar Hybarch J. Sam Jones yn Ficer Plwy’ go iawn, yn Ficer Plwy’ a’i wreiddiau yn y tir, Tir Dewi.