Lansio Mamis Mentrus yn Llanbed

gan Caryl Davies

Rydym yn grŵp o famau lleol sydd yn creu a gwerthu amrywiaeth o eitemau,  ac wedi ymgasglu i greu menter Mamis Mentrus.

O ddillad, bows gwallt, anrhegion wedi eu personoleiddio i grochenwaith gyda phrintiau traed a dwylo, gwrthrychau Scentsy i’r cartref a ffyj blasus.

Sut dechreuodd Mamis Mentrus?

Dechreuodd y cyfan nôl ym mis Ebrill. Roedd tair ohonom wedi trefnu bore siop pop up yn Nhregaron. Wrth setio fyny fe wnaeth Alex a Becky grybwyll pam se’n ni yn chwilio am fwy o fusnesau i ymuno â ni a dechrau grŵp o Mamis i deithio hyd a lled y wlad yn gwerthu ein nwyddau.

O fana fe wnaeth bethau symud yn go gyflym. Roedd gyda ni enw, logo a thudalen Facebook o fewn 24 awr ac roedden ni wedi trefnu ein digwyddiad cyntaf o fewn mis yn Aberteifi. Nelon ni gysylltu gyda phobl roedden ni yn adnabod i ymuno â ni – busensau bach oedd yn cynnig amrywiaeth i sicrhau fod pob stondin yn wahanol.  Ers hynny, mae cynrychiolaeth ohonom wedi bod yn Aberteifi, Machynlleth, Aberaeron ac Aberystwyth.

Bwriad Mamis Mentrus? 

Ein bwriad yw gweithio fel tîm i ddod âr holl fusnesau bach ynghyd.  Mae cynlluniau gyda ni i gynnal digwyddiadau y bydd yn cefnogi canolfannau teuluol/cylchoedd meithrin lleol drwy gynnal siop pop up gyda nhw. Ffordd arbennig i godi arian i elusennau lleol.

Trwy ddod â’r holl fusnesau bach ynghyd o dan yr un to a chynnig gweithgareddau i ddidannu plant…rydym yn gobeithio cynnig profiad siopa hwylus i rieni â phlant.

Ar lefel bersonol, mae bod yn rhan o Mamis Mentrus yn gyfle gwych i gymdeithasu gyda phobl sydd ar un meddylfryd â chi. Ni gyd yn caru ein busnesau bach ac am lwyddo.  Ni’n cefnogi ein gilydd hefyd. Dydyn ni byth yn styc rhagor pan fod angen anrhegion . . . os dw’i eisiau ffyj i mam, rwy’n ffonio Non, neu os dw’i eisiau bow ar gyfer pen-blwydd merch fach- rwy’n ffonio Becky.

Ni’n lwcus iawn or gefnogaeth rydym wedi derbyn gan fobl lleol, ein teuluoedd, ffrindiau a’n holl gwsmeriaid. Mae pawb wedi bod yn gefnogol tu hwnt.

Y lawnsiad 17.08.19

Poster Diwrnod Lawnsio

Yn digwydd ddydd Sadwrn yma yn Llanbed.  Ni wedi dewis Llanbed gan taw hwna yw ein tref lleol. Ni moen dod â phobl at ei gilydd i Lanbed i weld be sy gyda ni i’w gynnig.

Hwn yw’r tro cyntaf y byddwn ni gyd gyda’n gilydd fel Mamis Mentrus. Roedd hi’n anodd trefnu dyddiad oedd yn siwto pawb gan fod pawb mor brysur dros gyfnod yr haf, ond digwydd bod, roedd pawb yn rhydd ar y dyddiad yma.

Bydd 6 stondin gyda ni, bydd sawl cwmni lleol yn ymuno â ni hefyd. Bydd ffotograffydd yn tynnu lluniau portreadau plant. Bydd gweithgareddau crefft i’r plant, castell neidio, bydd Sali Mali yn dod i weud helo, te a choffi, ac heb anghofio gwobr raffl arbennig – hamper Mamis Mentrus!!!

Beth nesaf i’r Mamis Mentrus?

Bydd Mamis Mentrus ar daith dros y Nadolig. Byddwn yn ymddangos mewn ffeiriau Nadolig ac yn cynnal ambell i ddigwyddiad arbennig. (Dyddiadau i’w cadarnhau)

Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am fwy o ddigwyddiadau a chystadleuthau.